Dim refferendwm annibyniaeth i'r Alban 'tan 2024'
23/06/2021Mae Michael Gove wedi dweud na fydd refferendwm newydd ar annibyniaeth i'r Alban yn cael ei chynnal tan ar ôl Etholiad Cyffredinol 2024.
Mewn cyfweliad, dywedodd Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn fod y Prif Weinidog Boris Johnson yn canolbwyntio ar yr adferiad cenedlaethol yn sgil pandemig Covid-19 yn hytrach na chynnal refferendwm ar annibyniaeth.
Ychwanegodd y byddai cynnal refferendwm o'i fath yn "fyrbwyll" a "ffolineb llwyr" wrth ailadeiladu'r Deyrnas Unedig ar ôl coronafeirws.
Yn ôl Daily Mirror, mae Boris Johnson eisoes wedi ysgrifennu i Brif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon gan ddadlau fod y DU yn "gweithio'n well pan rydym yn gweithio gyda'n gilydd".
Darllenwch y stori'n llawn yma.