Beirniadu cynllun i gael ysgolion i ddathlu diwrnod undod Prydeinig
23/06/2021
Beirniadu cynllun i gael ysgolion i ddathlu diwrnod undod Prydeinig
Mae Llywodraeth y DU wedi dod o dan y lach am alw ar ysgolion i ddathlu ymgyrch sydd un clodfori "undod Prydeinig" ddydd Gwener.
Mae ymgyrch OBON - 'One Nation One Britain' yn gobeithio y bydd plant yn canu anthem i ganu clod i 'undod' gwledydd Prydain - syniad sydd wedi cael ei wfftio gan lawer ar gyfryngau cymdeithasol.
Ymysg geiriau cân OBON mae'r frawddeg "Ni yw Prydain ac mae ganddom un freuddwyd - i uno'r holl bobl mewn un tîm."
Mae erthygl The Guardian yn rhoi sylw i'r ymateb mae ymgyrch OBON wedi ei ennyn.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Ffotograffiaeth Iker Merodio
Fideo: One Nation One Britain OBON