Cyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio â manteisio ar 'gyfleoedd' Brexit

NS4C

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio â manteisio ar y "cyfleoedd" gall Brexit eu cynnig.

Daw’r sylwadau bum mlynedd union ers i’r Deyrnas Unedig bleidleisio yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnal dadl yn y Senedd yn ddiweddarach ddydd Mercher am y mater.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod dal gwaith “sylweddol” i’w wneud i liniaru “effeithiau andwyol Brexit ar bobl a busnesau.”

Gwnaeth 52.5% o bleidleiswyr Cymreig bleidleisio dros adael yr UE yn 2016.

Dywedodd Gweinidog Cysgodol y Cyfansoddiad i’r Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar A.S.: “Pum mlynedd yn ôl, mi oedd pobl ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig yn cymryd rhan yn yr ymarfer democrataidd mwyaf mae’r wlad hon erioed wedi ei weld.

“Er gwaethaf ymdrechion gwrth-ddemocrataidd a welwyd o rai grwpiau, cafodd Brexit ei gyflawni gan y Ceidwadwyr gan adael yr Undeb Ewropeaidd a chyflawni ein haddewid i bobl yng Nghymru.

“Rydym bellach wedi adennill ein hannibyniaeth wleidyddol ac economaidd yn llawn – gan gymryd rheolaeth dros ein deddfau, ffiniau, economi, masnach, a physgodfeydd – a bydd ein cytundeb masnach gyda’r UE yn helpu i greu perthynas newydd arbennig gyda’n cymdogion Ewropeaidd, un sydd wedi’i seilio ar fasnach rydd a chydweithrediad cyfeillgar.

“Mae ein rhyddid newydd wedi ein gweld ni’n sicrhau bargeinion masnach hanesyddol gan alluogi ni i amddiffyn ein cenedl trwy symud yn gyflym i ddatblygu, ennill a gweinyddu rhaglen frechlyn ar flaen y gad.

“Mae gan Gymru ei senedd fwyaf pwerus erioed ac wrth symud ymlaen mae’n hanfodol i Lywodraeth Llafur Cymru hyrwyddo a manteisio ar y cyfleoedd mae ein hymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd yn eu cyflwyno.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mewn ymateb i’r sylwadau, mae Llywodraeth Cymru wedi beirniadu Llywodraeth y DU.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae gwaith sylweddol i’w wneud o hyd i liniaru effeithiau andwyol Brexit ar bobl a busnesau. Rydym yn arbennig o siomedig bod Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni ei haddewid na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd y tu allan i'r UE.

 “Mae datganoli wedi hen ennill ei blwyf ac yn cael cefnogaeth dda yng Nghymru ond mae hyn dan fygythiad gan afael Llywodraeth y DU ar bwerau datganoledig. Mae angen i Lywodraeth y DU ddod â’i hymosodiad ar ddatganoli i ben, a welir trwy Ddeddf y Farchnad Fewnol, y gronfa lefelu fyny a’r gronfa ffyniant gyffredin.”

Dywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth y DU: 

“Mae pobl yng Nghymru a phob rhan o’r DU eisiau gweld gwleidyddion yn gweithio gyda’i gilydd ar yr heriau cyffredin rydyn ni i gyd yn eu hwynebu, dyna pam rydyn ni wedi darparu £8.6bn ychwanegol i Lywodraeth Cymru ers dechrau’r pandemig i’w helpu i ymateb i'r heriau a achosir gan y pandemig ”

"Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cefnogi economi Cymru trwy gynlluniau ledled y DU fel ffyrlo ac rydym eisoes wedi ymrwymo i rampio cyllid i gyd-fynd â chyllid gan yr UE trwy gronfa ffyniant gyffredin newydd y DU.

“Mae'n iawn ein bod ni'n gallu cefnogi pobl, swyddi a bywoliaethau ledled y Deyrnas Unedig."