Newyddion S4C

'S'dim arian i gael': 3,000 o ffermwyr mewn cyfarfod yng Nghaerfyrddin i drafod dyfodol amaeth

'S'dim arian i gael': 3,000 o ffermwyr mewn cyfarfod yng Nghaerfyrddin i drafod dyfodol amaeth

Fe wnaeth 3,000 o amaethwyr fynychu cyfarfod yng Nghaerfyrddin nos Iau i drafod dyfodol amaeth yng Nghymru.

Dyma'r trydydd cyfarfod mewn wythnos i gael ei gynnal, wedi rhai yn y Trallwng ac Arberth yn gynharach.

Daw'r cyfarfodydd yn sgil anfodlonrwydd gyda Chynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn ogystal â pholisïau eraill yn ymwneud â'r diciâu (TB) a'r cyfyngiadau i geisio lleihau faint o nitradau sy'n cael eu colli i afonydd a llynoedd.

Dywedodd un o drefnwyr y cyfarfod, Aled Rees, wrth raglen Newyddion S4C nos Iau: "Ma' beth y'n ni'n gweld yw dyfodol amaeth Cymru o dan y scheme newydd 'ma sydd wedi cael ei argymell gan y Llywodraeth.

"Y'n ni'n galw ar y llywodraeth i ail-edrych ar y scheme 'ma o'r gwaelod lan unwaith eto. Dyw e ddim bo' ni ddim am gyfrannu tuag at newid hinsawdd fel ffermwyr ond y'n ni'n teimlo bod y scheme 'ma yn mynd i gadw gymint o ffermwyr mas am bod rhaid i ni gael 10% o goed ar ein ffermydd a dyw hynna ddim i bob ffarmwr.

"Coed yn y mannau iawn, yn iawn, ond dim coed yn bobman.

Ychwanegodd Mr Rees: "Pan y'ch chi'n cael y scheme 'ma wedi ei ddadansoddi yn iawn a chael y ffeithie i gyd, ma' fe'n ofnadwy o bureaucratic, bydd rhaid i bob ffermwr gael consultant i neud y gwaith papur i fod yn rhan o'r scheme 'ma, fydd yn tynnu mwy o arian mas o'r economi.

"Dyw newid ddim yn beth newydd i'r diwydiant 'ma, y'n ni wedi bod yn newid dros y degawde, ond mae'r newid hyn yn mynd i roi'r hoelen diwethaf yn arch ffermio Cymru."

Dywedodd un a ddaeth i'r cyfarfod nos Iau: "S'dim incwm yn dod mewn, s'dim arian i gael. A nawr gyda hwn, mwy o goste a llai o elw yn dod mewn.

Ychwanegodd un arall: "Ma'r bobl 'ma yn gweithio orie dychrynllyd bob dydd a s'mo nhw'n cael y gefnogaeth so 'na beth y'n ni'n neud 'ma heno.

Dywedodd un arall: "Fi'n credu falle beth sydd wedi ysbrydoli pethe 'ma ydi ni 'di gweld beth sy'n digwydd yn Ewrop, smo smo ni moyn i darfu a neud rhyw derfysg mawr o'r peth ond ma' raid ni fynd gyda'n gilydd i Gaerdydd mewn undeb, mewn nerth."

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths ei bod yn deall bod hwn yn gyfnod o newid ac o ansicrwydd i ffermwyr, ond mae hi yn eu hannog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

"Dwi'n meddwl beth sy'n bwysig iawn o ran y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd yn pryderu lot o bobl ydi ei fod yn ymgynghoriad," meddai.

"Os ydi pobl eisiau protestio, cyn belled eu bod nhw'n gwneud hynny yn gyfreithlon a'n heddychlon, dwi wedi bod ar sawl protest yn fy amser i, fi fyddai'r person olaf i ddweud na ddylech chi wneud hynny. Ond nid wyf am dderbyn unrhyw fygythiadau yn erbyn fy swyddogion na fy hun. 

"Felly dwi'n deall pryderon pobl a dwi wedi cael adborth o'r cyfarfod yn Y Trallwng yr wythnos diwethaf - cefais ffermwyr yn cysylltu gyda fy etholaeth amdano, roedd rhai ohonyn nhw yn pryderu am yr hyn oedd yn digwydd felly dwi'n derbyn dwy ochr y stori."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.