Cau Pont Tywysog Cymru ar gyfer ‘gwaith atgyweirio brys’

Ail Groesiad Hafren

Bydd un o’r prif ffyrdd sy’n cysylltu Cymru â Lloegr yn cau nos Fercher ar gyfer gwaith atgyweirio brys.

Dywedodd National Highways, sy’n gyfrifol am gynnal a chadw ffyrdd yn Lloegr, eu bod wedi dod o hyd i broblem ddiogelwch ar Bont Tywysog Cymru ar yr M4.

“Mae angen gwaith atgyweirio brys er mwyn trwsio cymal ar y ffordd tua’r dwyrain,” meddai’r corff.

“Mae’r bont yn ddiogel i’w defnyddio, ond mae’n rhaid gwneud y gwaith nawr i atal difrod pellach.”

Bydd y ffordd ar gau rhwng cyffyrdd 22 a 23 yr M4 rhwng 22:00 nos Fercher a 06:00 fore Iau.

Mae cyfyngiadau hefyd ar y bont arall dros yr Hafren ar yr M48 ar hyn o bryd.

Bydd angen i unrhyw gerbyd dros 7.5 tunnell deithio ar hyd yr A449, cyn ymuno â’r A40 ac yna’r M50.

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich amynedd tra bod y gwaith diogelwch hanfodol hwn yn cael ei gwblhau,” meddai National Highways.
“Er mwyn helpu i leihau anghyfleustra, mae’r cynlluniau i gau’r M48 dros nos ar 16 a 17 Hydref wedi’u gohirio.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.