Dros 115 o blismyn Cymru wedi eu diswyddo a'u gwahardd am gamymddwyn

Heddlu

Fe gafodd dros 115 o blismyn Cymru eu diswyddo a'u gwahardd o'r heddlu am gamymddwyn neu droseddu yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth eleni, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae data'r Coleg Plismona'n dangos bod cyfanswm o 116 o swyddogion yn lluoedd Cymru wedi eu diswyddo a'u gwahardd yn ystod y cyfnod hwn, gyda'r mwyafrif yn gweithio i Heddlu'r De, sef llu mwyaf Cymru.

Drwy Gymru a Lloegr, cafodd dau swyddog eu diswyddo a'u gwahardd y dydd ar gyfartaledd dros y cyfnod yma.

Dyma'r niferoedd yn ôl lluoedd Cymru:

Heddlu Dyfed-Powys: 13

Heddlu Gwent: 28

Heddlu Gogledd Cymru: 19

Heddlu De Cymru: 56

Roedd 8,076 o swyddogion yr heddlu yn gweithio yng Nghymru yn 2024.

Drwy Gymru a Lloegr, roedd 735 o swyddogion wedi eu diswyddo a'u gwahardd rhag gweithio fel plismyn yn ystod y cyfnod dan sylw, gyda'r mwyafrif o achosion yn Heddlu'r Met yn Llundain (183 swyddog allan o staff o 33,293).

Roedd troseddau rhyw yn erbyn plant mewn 21 o achosion.

Anonestrwydd oedd y rheswm mwyaf cyffredin am ddiswyddo swyddogion a'u gwahardd. Roedd nifer yr achosion o gael mynediad at wybodaeth yn anghyfreithlon yn rheswm cyffredin arall.

Roedd 146,442 o heddweision llawn amser cyfatebol ar draws 43 llu drwy Gymru a Lloegr hyd at fis Mawrth eleni.

'Ymdrech benderfynol'

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Tom Harding, cyfarwyddwr safonau gweithredol y Coleg Plismona: “Mae’r ffigurau hyn yn dangos ymdrech benderfynol a chadarn gan heddluoedd i gael gwared ar swyddogion y mae eu hymddygiad yn is na’r safonau uchel yr ydym ni, a’r cyhoedd, yn eu disgwyl ganddynt.

“Nid oes angen dweud, unrhyw amser y mae ymddygiad swyddog yn torri safonau proffesiynol, neu hyd yn oed yn crwydro i droseddu, ei fod yn gadael staen barhaol ar enw da plismona.

“Ond gall y cyhoedd fod yn hyderus bod eu heddluoedd yn nodi ac yn delio’n gyflym ag ymddygiad annerbyniol gan swyddogion a staff, a fydd, trwy fod ar y rhestr waharddedig, byth yn gweithio ym maes plismona eto."

Ychwanegodd: “Mae’r neges yn glir: mae ein system blismona wedi’i hadeiladu ar gynnal ein cod moeseg, ar ddewrder, parch ac empathi a gwasanaeth cyhoeddus, ac nid oes lle yn ein gwasanaeth heddlu i unrhyw un y mae ei ymddygiad yn mynd yn groes i’r gwerthoedd hyn.”

Llun: Heddlu De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.