Rhybudd wedi i algâu gwyrddlas gael ei ddarganfod ym Môn

algae
Mae rhybudd wedi ei gyhoeddi ar ôl i algâu gwyrddlas gael ei ddarganfod ar lyn a thraeth ym Môn.
 
Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod yr algâu yn effeithio ar Lyn Maelog ac i lawr hyd at Draeth Llydan, Rhosneigr.
 
Mae arwyddion i rybuddio'r cyhoedd wedi eu gosod gerllaw meddai swyddogion. 
 
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Sicrhewch nad ydych chi na’ch anifeiliaid anwes yn dod i gyswllt â’r algâu na’r dŵr, a’ch bod yn cadw’ch dwylo’n lân.
 
"Mae algâu gwyrddlas yn digwydd yn naturiol mewn dyfroedd mewndirol, mewn aberoedd ac yn y môr. 
 
"Gall gordyfiant ffurfio pan fydd gormod o’r algâu."
 
Ychwanegodd: "Gall algâu gwyrddlas sy’n ffurfio gordyfiant a llysnafedd gynhyrchu tocsinau. 
 
"Gall y tocsinau hyn fod yn beryglus iawn i anifeiliaid. Mewn pobl, gallant achosi brech ar ôl dod i gyswllt â’r croen, a salwch os cânt eu llyncu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.