Y chwilio'n parhau am drysorau gafodd eu dwyn o Sain Ffagan

Sain Ffagan

Mae Heddlu’r De wedi dweud eu bod yn parhau i chwilio am drysorau gafodd eu dwyn o Amgueddfa Sain Ffagan ger Caerdydd yr wythnos diwethaf. 

Dywedodd y llu wrth Newyddion S4C eu bod nhw’n parhau i gynnal eu hymchwiliad ar ôl i’r eitemau, sy’n cynnwys gemwaith aur o’r Oes Efydd, eu dwyn o arddangosfa yn y prif adeilad tua 00:30 fore dydd Llun diwethaf. 

Mae Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson eisoes wedi dweud bod rhai o'u "trysorau mwyaf" ymysg yr eitemau oedd wedi eu dwyn.

Cafodd dau ddyn, Gavin Burnett, 43 oed, a Darren Burnett, 50 oed, o Northampton eu cyhuddo o fyrgleriaeth wedi’r digwyddiad. 

Fe ymddangosodd y ddau yn Llys Ynadon Northampton ddydd Mercher diwethaf ar gyhuddiad o ddwyn. 

Fe fyddan nhw'n ymddangos o flaen llys unwaith eto ar 19 Tachwedd.

Roedd menyw 45 oed o Sir Northampton wedi cael ei harestio fel rhan o'r ymchwiliad hefyd.

Mae hi bellach wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.