Cyrff pedwar o wystlon Israelaidd wedi eu rhyddhau gan Hamas
Mae cyrff pedwar o wystlon Israelaidd eraill wedi eu rhyddhau gan Hamas yn ôl lluoedd Israel.
Cafodd y cyrff eu rhoi i'r Groes Goch ac yna eu trosglwyddo i'r IDF yn hwyr nos Fawrth.
Mae'r gwaith wedi dechrau er mwyn eu hadnabod yn ffurfiol.
Mewn datganiad dywedodd y Groes Goch bod gweddillion cyrff 45 o'r Palesteiniad oedd yn Israel wedi eu dychwelyd i Gaza ddydd Mawrth.
Erbyn hyn mae wyth o gyrff gwystlon Israelaidd wedi eu dychwelyd, a'r 20 gwystl oedd yn dal yn fyw.
Mae yna bwysau cynyddol ar Israel ac Hamas ynglŷn â chyrff y 20 gwystlon Israelaidd eraill sydd heb gael eu dychwelyd yn ôl i'w teuluoedd.
Fel rhan o'r cadoediad heddwch y disgwyl oedd y byddai'r 48 gwystl wedi eu dychwelyd erbyn canol dydd ar ddydd Llun.
Rhybuddio mae Gweinidog Amddiffyn Israel y byddan nhw yn "ymateb" os bydd yna "oedi neu osgoi bwriadol" gan y byddai hyn yn "torri'r cytundeb".
Ond mae Hamas wedi dweud eu bod yn cael trafferth lleoli'r cyrff yn sgil y rhyfel.
Mae'r cytundeb sydd wedi ei gyhoeddi gan y wasg yn Israel yn ymddangos fel ei fod yn cydnabod na fydd Hamas a charfanau Palesteiniadd eraill yn gallu darganfod y gweddillion o fewn yr amserlen wreiddiol.
Mae swyddog Israeliadd wedi awgrymu y bydd llu rhyngwladol yn dechrau'r gwaith o ddod o hyd i'r cyrff sydd heb eu dychwelyd.
Pryder y Palesteiniad yw y bydd unrhyw oedi gan Hamas yn tanseilio'r cadoediad ac yn bwrw amheuaeth ar ail ran y cytundeb heddwch.
Cafodd bron i 2,000 o garcharorion Palesteinaidd eu rhyddhau fel rhan o'r cynllun ddydd Llun.