
Merch o Bowys yn dod i'r brig mewn cystadleuaeth ffotograffiaeth ryngwladol
Mae merch 10 oed o Bowys ymhlith prif enillwyr cystadleuaeth ffotograffiaeth ryngwladol eleni.
Jamie Smart o Landrindod ddaeth i’r brig yng nghategori 10 oed ac iau yng nghystadleuaeth Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn 2025.
Fe lwyddodd y ffotograffydd ifanc i gipio’r wobr gyda’i llun o’r enw 'The Weaver’s Lair'.
Mae’r ffotograff, a gafodd ei dynnu yng Nghymru, yn dangos pryf copyn yr ardd yn ei we ar fore oer ym mis Medi.
Ond nid dyma’r tro cyntaf i’r seren ifanc dderbyn canmoliaeth uchel am ei gwaith.
Mae wedi ennill sawl gwobr yn ystod ei gyrfa fer, gan gynnwys y brif wobr ar gyfer pobl ifanc yng Ngwobrau Ffotograffiaeth Bywyd Gwyllt Prydain 2025.

Mae cystadleuaeth Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn yn cael ei chynnal gan Amgueddfa Hanes Naturiol Llundain.
Roedd yna 60,636 o geisiadau eleni – sef y mwyaf o geisiadau i’r gystadleuaeth erioed.
Wim van den Heever o Dde Affrica oedd enillydd y brif wobr gyda ffotograff o hyena brown prin.

Cafodd y llun ei dynnu yn nhref Kolmanskop yn Namibia. Dywedodd Wim van den Heever ei fod wedi bod yn trio tynnu llun o’r math yma o hyena am dros 10 mlynedd.
Andrea Dominizi o’r Eidal oedd enillydd Ffotograffydd Bywyd Gwyllt Ifanc y Flwyddyn 2025.

Cafodd y llun ei dynnu ym Mynyddoedd Lepini yn ei famwlad, gan geisio darlunio effaith y mae colli cynefinoedd wedi ei gael ar yr ardal.
Fe allwch chi ymweld â gwefan Amgueddfa Hanes Naturiol Llundain er mwyn gweld gwaith yr holl enillwyr.
Lluniau'r gwaith ffotograffiaeth: PA. Llun Jamie Smart: Instagram/@eagle_eyed_grl.