Beth yw pryderon ffermwyr ar hyn o bryd?
Wrth i gannoedd o ffermwyr ymgynnull nos Iau ar gyfer y trydydd cyfarfod cyhoeddus o'i fath mewn llai na wythnos, pam yn union y maen nhw'n poeni am ddyfodol amaeth yng Nghymru ar hyn o bryd?
Fe wnaeth yr Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol o Brifysgol Bangor Dr Prysor Williams ateb rhai o'r cwestiynau allweddol sydd wrth wraidd y mater.
Pam bod ffermwyr yn ymgynnull i drafod dyfodol amaeth yng Nghymru?
"Dwi’n meddwl bod o’n sawl peth tu ôl i hyn. Mae ‘na anniddigrwydd a rhwystredigaeth a dipyn o boendod hefyd. Ma' siwr bod hynny yn wir am y sector amaeth yn ehangach na Chymru, ond wrth edrych ar Gymru yn benodol, dwi’n meddwl bod ‘na dair brif elfen a maen nhw wedi digwydd disgyn ar yr un pryd.
"Yn sicr, mae ‘na rwystredigaeth ynglyn â’r ffordd mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â TB neu’r diciâu mewn gwartheg.
"Yn ail, mae Cymru gyfan rwan o dan reoliadau sydd yn cyfyngu faint o anifeiliaid mae ffermwyr yn gallu gadw, yn enwedig gwartheg. Cyfyngiadau ydi’r rheini er mwyn ceisio lleihau faint o nitradau (nitrates) sy’n cael eu colli i’n hafonydd a’n llynoedd ni ac mae ffermwyr yn deud bod hyn yn mynd i bob pwrpas eu gwneud nhw yn amhroffidiol achos maen nhw angen rhyw gymaint o niferoedd er mwyn gallu bod yn broffidiol ag unrhyw gyfyngiadau neu leihad yn y niferoedd yna, mae o’n fygythiad i’w busnes nhw.
"Wedyn, y prif reswm tu ôl i hyn i gyd ydi mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd efo cyfnod ymgynghori ar agor ynglyn â’r cynllun ffermio cynaliadwy sef y cynllun sy’n dod i ddisodli’r cynlluniau ‘dan ni wedi weld tra’r oedd Cymru a Phrydain wrth gwrs yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.
"Ma’ Brexit wedi digwydd ond i bob pwrpas, mae pethau wedi cario mlaen fel ag yr oedden nhw ond mae hynny’n newid flwyddyn nesaf, ma’r cynllun ffermio cynaliadwy yn dod ymlaen. Mae ffermwyr os ydyn nhw am ymuno â’r cynllun hwnnw er mwyn derbyn taliadau, yna mi fydd tipyn mwy o ofynion arnyn nhw nag yr oedd o dan y cynlluniau pan oedden ni’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd.
"Mae ‘na ddwy brif elfen sydd wedi cynddeiriogi nifer o ffermwyr ac un o’r rheiny ydi bod angen i 10% o dir fferm fod o dan goed a 10% i fod o dan rhyw fath o gynefin a felly ma ffermwyr yn gweld hyn fel bygythiad i’w busnes nhw gan y bydd o’n lleihau eu gallu nhw i gynhyrchu."
O ran y cynllun ffermio cynaliadwy, beth yn union sy'n corddi dyfroedd?
"Heb os nac oni bai, y gofyn fod 'na 10% o dir y fferm wedi ei blannu’n goed ydi’r prif bwynt trafod ag aniddigrwydd y cynllun newydd. Mae 'na sawl peth arall fydd raid i ffermwyr neud i fod yn rhan o’r cynllun ond dwi’n meddwl mai cymharol fach ar y cyfan ydi’r pryder am y rheiny o’u cymharu â’r pryder am y gofyn ‘ma am 10% o’r tir o dan goed.
"Wrth gwrs, mae gan rai ffermwyr 10% o goetir ar eu fferm yn barod a mae ‘na rai eraill sydd yn agos iawn i hynny. Ond wrth gwrs, ar ffermydd eraill... efallai ffermwyr yn y ffermydd ar dir fwy cynhyrchiol, mae genna nhw lai o goed yn aml iawn ac iddyn nhw, dydyn nhw methu gweld sut mae’r cynllun newydd yn mynd i ddi-golledu nhw yn ddigonol os dio’n golygu bod nhw’n gorfod plannu hyd at 10% o’u tirwedd yn goed.
Faint o ran y mae Brexit wedi chwarae yn yr anfodlondeb a'r aflonyddwch?
"Anferthol, a dwi methu deall i ryw raddau sut mae hi wedi cymryd cyhyd i ffermwyr ddeffro i hyn, achos ma’ Brexit wedi digwydd ers blynyddoedd. Fysa’r cynllun ffermio cynaliadwy ddim yn bodoli oni bai am Brexit achos oedd y cynlluniau fel oedden nhw yn flaenorol yn dod o Frwsel – oedd na fireinio ar y cynlluniau hynny, ond rwan, yn sicr mae ‘na lawer iawn yn fwy o bwer ar y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yng Nghaerdydd a ddim ym Mrwsel.
"Dydy hi ddim wedi bod yn gyfrinach bod hyn yn dod, achos mae ‘na sawl dogfen ymgynghorol wedi bod gan Llywodraeth Cymru rwan, hwn ydi’r trydydd ymgynghoriad mawr. Dydy'r patrwm cyffredinol heb newid a mae hynny yn wir yn Lloegr a’r Alban hefyd. Ma' Brexit efo rhan fawr iawn yn hyn a dwi ddim yn meddwl bod hyn yn cael ei ddweud digon aml i fod yn onest."
Mae yna brotestio yn Ewrop hefyd, oes yna gysondeb o ran y materion sy’n tanio’r protestiadau hyn?
"Oes, mae’n saff dweud bod 'na, dwi’n meddwl. Be' sydd yn gyffredin ydi bod ffermwyr yn teimlo bod eu bywoliaeth nhw o dan fygythiad ag yn aml iawn, mae hynny yn deillio o reolau neu reoliadau newydd sy’n dod i rym ar draws gwledydd Ewrop sy’n ymwneud ag unai lleihau colledion nitrogen i’r amgylchedd neu ffosffad.
"Efallai ar hyd a lled Ewrop yn y gwledydd gwahanol, mae’r union reswm yn amrywio rhywfaint ond mae ‘na gysondeb a’r cysondeb hwnnw ydi bod ffermwr yn teimlo o dan fygythiad a hynny fel arfer, yn ymwneud â rheoliadau amgylcheddol sy’n mynd i gyfyngu ar eu gallu nhw i gynhyrchu."
Ydych chi’n rhagweld mai protestio fydd y cam nesaf i ffermwyr?
"Mae’r ymgynghoriad ar y cynllun ffermio cynaliadwy ar agor gan Lywodraeth Cymru tan 7 Mawrth ag mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw eisiau clywed barn y ffermwyr ar y cynllun.
"Dydy’r cynllun heb ei sgwennu eto neu ddim yn orffenedig yn sicr, a maen nhw yn amlwg yn mynd i fod yn cnoi cil dros yr ymatebion 'ma. Dwi'n gobeithio ynghyd â'r protestio, dwi yn gobeithio y bydd i diwydiant yn ymateb i'r ymgynghoriad hefyd ac wrth gwrs, mae'r undebau yn chwarae rhan allweddol yn lleisio barn ffermwyr a'u bwydo nhw nol i'r Llywodraeth fel petai. Ond rwan ydi'r adeg i leisio barn am y cynllun 'ma achos dydy'r cynllun heb gychwyn eto.
"Dwi'n meddwl bod 'na ryw fomentwm wedi adeiladu dros yr wsnosa dwytha; mae ffermwyr Cymru wedi bod yn edrych ar y cyfryngau a gweld be sy'n digwydd mewn rhannau eraill o Ewrop ag yn bach nes adra yn Iwerddon. Dwi'n meddwl y bydd hi'n anochel y bydd rhai ffermwyr yn sicr yn dewis mynd i brotestio."