'Angen buddsoddi mwy mewn amddiffynfeydd llifogydd naturiol'

Iago Thomas

Mae angen mwy o fuddsoddiad mewn amddiffynfeydd llifogydd naturiol os am ddiogelu cymunedau dros y degawdau sydd i ddod, yn ôl un arbenigwr. 

Mi ddaw galwad Dr Eurgain Powell o Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru wrth i gynllun newydd ddechrau i wella ansawdd tir y Migneint ger Dyffryn Conwy. 

Gobaith y cynllun ydi adfer erydiad ar y tir fel bod modd iddo ddal rhagor o ddŵr a’i rwystro rhag llifo i ardaloedd cyfagos yn gyflym gan achosi llifogydd. 

Dweud mae Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi ymrwymo i ddiogelu cymunedau rhag llifogydd gan gefnogi 23 cynllun tebyg eleni.  

Mae’r cynllun ar y Migneint yn un ar y cyd rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chwmni yswyriant Admiral gwerth £180,000. 

Mae’r gwaith ar lwyfandir helaeth y Migneint yn gobeithio sicrhau bod modd i’r tir storio mwy o ddwr a charbon er mwyn atal llifogydd. 

“Mae’r erydiad yn golygu bod y dŵr yn llifo lawr yn sydyn oddi ar y mawndir,” meddai Iago Thomas, swyddog mawndiroedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. 

“A hefyd mae’r carbon sy’n cael ei storio yn y mawn yn cael ei ryddhau pan mae o mewn cydflwr drwg.

“Pan mae dŵr yn disgyn mae’n llifo lawr at yr afonydd ac at y dalgylch ac os ‘da ni’n adfer yr ardal yma mi neith o arafu llif y dŵr.” 

Image
Ardal o fawndir wedi'i hadfer
Ardal o fawndir wedi'i hadfer (Llun: Paul Harris / Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae’r gwaith yn digwydd dros ardal o 12 hectar sy’n cyfateb i ardal cyfwerth a thri stadiwm y Principality ac mae diswgyl iddo gymryd tair blynedd i gwblhau. 

Wedi hynny, y gobaith yw y bydd trefi fel Llanrwst, sydd 10 milltir i ffwrdd, yn gweld gwerth y cynllun gyda’r ardal honno yn dioddedf llifogydd yn aml.

“Mae’n rhyfedd be sy’n digwydd 10 milltir i ffwrdd a sut mae'n gallu effeitho ar fama,” medd y cynghorydd dros ardal Uwch Conwy, Dilwyn Roberts. 

“Ond mwya’r dŵr glaw mae nhw’n gallu ei gynnal yn y gorsydd ac ar y Migneint, gorau’n byd ydio inni yn fama.”

Image
Dilwyn Roberts
Y Cynghorydd Dilwyn Roberts o Gyngor Sir Conwy (Llun: Newyddion S4C)

Yn ôl y Cynghorydd Roberts, pan mae’r dŵr yn llifo o’r Migneint a’r llanw yn uchel o’r Môr, mae Afon Conwy yn aml yn gorlifo, felly mae’n dweud ei fod yn falch o weld cynllun naturiol all wneud gwahaniaeth. 

Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn gorff annibynnol sy’n cynghori Llwydoraeth Cymru a’r isadeiledd angenrheidiol, ac yn ôl Dr Eurgain Powell, sy’n arbenigo yn y maes, mae angen mwy o fuddsoddiad. 

“Ni’n credu bydd o gwmpas un o bob pedwar cartref ar risg o lifogydd erbyn 2025 felly does dim digon o arian a chyllid yn cael ei wario ar foment,” meddai. 

“Mae angen trial ffendio ffynhonellau mwy arlosoeol gan weithio gyda’r sector breifat, cwmniau fel Admirall er mwyn ceisio lleihau y risg ni an weld o’r llifogydd yma.”

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw wedi ymrwymo i gyflwyno ffyrdd naturiol i ddiogelu cymunedau.

“Gyda newid hinsawdd yn cynyddu tebygolrwydd difirfoldeb llifogydd rydym yn darparu buddsoddiad sylweddol I gefnogi pobl ar draws Cymru,” meddai llefarydd.

“Mae £2m yn ychwanegol wedi cael ei fuddsoddi eleni I gefnoi 23 cynllun naturiol I atal llifogydd fydd yn lleihau y risg I 2,800 o gartrefi.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.