Dau ddyn o Lundain yn pledio’n euog i losgi’n fwriadol yng Ngheredigion
Mae dau ddyn o Lundain wedi eu carcharu ar ôl pledio'n euog i losgi'n fwriadol wedi digwyddiad ar safle cwmni dŵr Tŷ Nant yng Ngheredigion.
Am 22.55 ar 17 Mehefin, fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle Tŷ Nant, ym Methania, wedi i dân achosi difrod sylweddol i’r eiddo.
Fe wnaeth y tân achosi colled ariannol gwerth £600,000 i’r cwmni.
Yn dilyn ymchwiliad gan adran ymchwiliadau troseddol Aberystwyth yn Heddlu Dyfed Powys, cafodd dau ddyn o ddwyrain Llundain, Darryl Kinnear, 34 oed a Peter Silva, 22 oed, eu harestio.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Kinnear a Silva wedi teithio o Lundain i Geredigion er mwyn cyflawni’r drosedd.
Fe ddangosodd y dystiolaeth a gasglwyd mai nhw oedd yn gyfrifol am ddechrau’r tân, ac fe blediodd y ddau yn euog i losgi’n fwriadol gan roi bywydau dan fygythiad.
Cafodd Kinnear ddedfryd o bum mlynedd yn y carchar, gan gynnwys dedfryd o 12 mis yn olynol am yrru’n beryglus, fel rhan o ymchwiliad Heddlu’r Met. Cafodd Silva ddedfryd o bedair blynedd yn y carchar
Dywedodd yr Arolygydd Ditectif Leon Lewis: “Roedd hon yn weithred beryglus a di-ofal, a allai yn hawdd iawn fod wedi arwain at anaf difrifol neu farwolaeth.
“Mae llosgi bwriadol yn drosedd ddifrifol iawn, a hoffwn ddiolch i’m tîm ymchwilio am ddwyn y troseddwyr gerbron y llys.”
