S4C yn sicrhau hawliau i ddangos gemau'r Chwe Gwlad tan 2029
Bydd S4C yn darlledu gemau rygbi tîm dynion Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad am y pedair blynedd nesaf ar ôl sicrhau cytundeb darlledu newydd.
Bydd y darlledwr yn dangos holl gemau tîm y dynion a thîm Dan 20 Cymru yn y gystadleuaeth hyd at 2029, yn ogystal ag uchafbwyntiau o gemau tîm y menywod.
Daw'r newyddion wedi’r cyhoeddiad fis Mawrth y bydd holl gemau Chwe Gwlad y dynion yn parhau i gael eu dangos yn y Saesneg gan ITV a'r BBC am y pedair blynedd nesaf.
Dywedodd Sue Butler, Pennaeth Chwaraeon S4C bod y cytundeb yn dangos ymrwymiad y darlledwr i “ddarparu cynnwys rygbi yn y Gymraeg ar bob lefel.”
Fe ychwanegodd Tom Harrison, Prif Weithredwr Rygbi Chwe Gwlad, ei fod yn "falch o barhau i weithio gydag S4C i ddarparu darllediadau Cymraeg am ddim o’r Bencampwriaeth am y pedair blynedd nesaf.”
Roedd yna ansicrwydd dros ddyfodol darlledu rygbi rhyngwladol ar ddechrau’r flwyddyn, gyda sawl gwleidydd yn galw am sicrhau fod gemau rygbi Cymru ar gael i’w gwylio ar deledu cyhoeddus a hynny am ddim i'r gwylwyr.
Bydd S4C hefyd yn darlledu gemau Cymru yng Nghyfres Cenhedloedd Quilter dros yr Hydref, sydd yn cael eu dangos yn y Saesneg gan TNT Sports.