Newyddion S4C

'Amser i glywed ein lleisiau': Cannoedd o ffermwyr yn cyfarfod i drafod dyfodol amaeth

'Amser i glywed ein lleisiau': Cannoedd o ffermwyr yn cyfarfod i drafod dyfodol amaeth

Roedd cannoedd o ffermwyr mewn cyfarfod cyhoeddus yn Y Trallwng nos Iau i drafod dyfodol y byd amaeth yng Nghymru.

Cafodd y cyfarfod ei drefnu mewn ymateb i nifer o heriau y mae amaethwyr yn ei ddweud sydd yn eu wynebu ar hyn o bryd - o bolisïau amaeth y llywodraeth, i'r cyfyngder gyrru 20mya newydd, y diciâu, ac effaith Brexit ar y diwydiant.

Mae cynllun ffermio arfaethedig gan Lywodraeth Cymru wedi codi gwrychyn amaethwyr ac undebau ffermio, sy'n dadlau y byddai'n golygu colli 5,500 o swyddi ag arwain at "ddiwedd yr iaith Gymraeg".

Dywed y llywodraeth eu bod wedi eu hymrwymo i gefnogi'r sector amaeth, gan gydnabod bod y cyfnod hwn yn un heriol i'r holl sectorau yng Nghymru o achos effaith chwyddiant ar gyllidebau.

Polisi dadleuol

Fe all y Cynllun Ffermio Cynaliadwy weld miloedd o swyddi yn cael eu colli yn ogystal â cholli dros 120,000 o dda byw, yn ôl asesiad effaith a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd cadeirydd y cyfarfod Wyn Evans nos Iau: "Rydym ni'n teimlo nad yw'r Senedd yng Nghaerdydd yn gwrando ar ein pryderon o fewn y Gymru wledig, a hoffem anfon neges mai digon yw digon."

Ychwanegodd Glandon Lewis o Farchnad Da Byw y Trallwng: "Mae o'n hanfodol bod ein diwydiant amaethyddol ni a'n cefn gwlad ni yn cael ei barchu.

"'Dan ni'n teimlo bod ein bywoliaeth ni mor ddibynnol ar gefnogaeth ein ffermwyr da byw ac yn anffodus, dydyn nhw ddim yn cael eu gwarchod yn y farchnad agored."

'Ddim yn cael ein clywed'

Mae'r diciâu yn bryder mawr i'r ffermwr a'r darlledwr Gareth Wyn Jones. Dywedodd yntau cyn y cyfarfod:

"Fy mhroblem fwyaf i unwaith eto ydi TB, rydym ni wedi bod o dan y cyfyngiad yna a dwi'n teimlo fod yna ffyrdd fedrwn ni ddelio â'r broblem ond nad ydym ni'n cael ein clywed," meddai.

"Dwi'n teimlo'n gryf ein bod ni gyd angen dod at ein gilydd yn ein diwydiant o'r uchelfannau yn Yr Alban lawr i Gernyw, o Aberystwyth i Iwerddon, mae'n amser i bob un ffermwr ddechrau cael eu lleisiau wedi eu clywed.

"Rydym ni wedi cael amser ofnadwy o anodd, a 'dan ni'n gweithio yn galed i gynhyrchu bwyd sy'n fforddiadwy a'n amgylcheddol-gyfeillgar ac fe wnawn ni ddangos i bobl ein bod ni'n gallu gwneud hyn yn heddychlon ac yn iawn ac o fewn y gyfraith, ac mae hynny yn bwysig iawn. 

"Mae'r bobl yma i frwydro am eu dyfodol ac am ddyfodol y genhedlaeth ffermio nesaf ar hyd y wlad anhygoel yma."

Mae cannoedd o ffermwyr yn Ffrainc wedi rhwystro ffyrdd i mewn i’r brifddinas Paris gan ddweud bod eu hincwm a’u hamodau gwaith yn gwaethygu.

Mae protestiadau yn cael eu cynnal ar draws Ffrainc a hefyd yng Ngwlad Belg, a’r Almaen lle mae tractorau wedi rhwystro ffyrdd i borthladd Hamburg.

Llun: Gareth Wyn Jones

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.