Newyddion S4C

Awgrym y gallai Swyddfa'r Post wynebu bil treth o £100m wedi sgandal Horizon

13/01/2024
post

Fe allai Swyddfa’r Post fod yn wynebu bil o £100 miliwn ac ansolfedd ar ôl hawlio rhyddhad treth ar ei thaliadau iawndal i is-bostfeistri, yn ôl arbenigwr treth.

Dywedodd Dan Neidle, pennaeth y sefydliad di-elw Tax Policy Associates, fod Swyddfa’r Post wedi hawlio £934m o ryddhad treth ar ei thaliadau iawndal, ac awgrymodd y gallai fod yn “anghyfreithlon”.

Yn sgil sgandal Horizon, derbyniodd dros 700 o is-bostfeistri euogfarnau troseddol ar ôl i feddalwedd cyfrifo diffygiol Fujitsu wneud iddi ymddangos fel pe bai arian ar goll yn eu canghennau.

Ddiwrnodau ar ôl i’r ddrama ITV Mr Bates vs The Post Office gael ei darlledu, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog Rishi Sunak y gallai enwau’r rhai sy’n cael eu herlyn ar gam yng Nghymru a Lloegr gael eu clirio erbyn diwedd y flwyddyn o dan ddeddfwriaeth fydd yn cael ei chyflwyno ymhen ychydig wythnosau.

Dywedodd Mr Nedle fod Swyddfa’r Post wedi trin yr iawndal y mae’n ei dalu i bostfeistri fel un yr oedd modd hawlio treth yn ôl arno, sydd “ddim yn gywir”.

'Aneglur'

Dywedodd arbenigwyr treth eraill wrth y FT nad oedd y sefyllfa'n gwbl eglur, gydag un yn dweud y gall busnes “yn gyffredinol hawlio didyniadau treth ('tax deductibles') ar gyfer treuliau a dynnir sydd â chysylltiad agos â’i fasnach, hyd yn oed os yw’n daliad iawndal”.

Dywedodd Swyddfa’r Post fod y wybodaeth y mae wedi’i datgelu am drethi yn “briodol a chywir”.

Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Busnes a Masnach Tŷ’r Cyffredin Liam Byrne ei bod yn “stori ysgytwol arall” am Swyddfa'r Post.

Dywedodd yr AS Llafur wrth raglen Today ar BBC Radio 4: “Mae’n edrych fel bod Swyddfa’r Post bron â gwylltio'r wlad eto drwy dandalu eu trethi a gordalu eu penaethiaid.

“Mae'n edrych fel mai'r hyn maen nhw wedi'i wneud yn y bôn yw crisialu'r colledion am bechodau'r gorffennol, gosod hynny yn erbyn cyfrifon cyfredol, ond maen nhw wedi bod eisiau osgoi ergyd i fonws y tîm rheoli presennol. 

"Ac nid wyf yn siŵr y gallwch chi ei gael y ddwy ffordd.”

Dywedodd y bydd y pwyllgor yn gofyn cwestiynau am y rhyddhad treth ddydd Mawrth pan fyddan nhw'n holi prif weithredwr Swyddfa'r Post Nick Read a phennaeth Ewrop Fujitsu, Paul Patterson.

'Priodol a chywir'

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa’r Post: “Mae’r wybodaeth a ddatgelwyd ar drethiant yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Swyddfa’r Post ar gyfer 2022/23, a gyhoeddwyd ar 20 Rhagfyr 2023, yn briodol ac yn gywir.

“Rydym yn cael sgyrsiau rheolaidd gyda’r Llywodraeth sef ein hunig gyfranddaliwr ac roedd ein gohebiaeth mewn perthynas â’r mater hwn yn ymwneud â sicrhau bod y driniaeth dreth ar y cyllid a gawn gan y Llywodraeth i dalu iawndal yn cael ei thrin yn yr un modd â chyllid arall gan y Llywodraeth. ”

Colli dros £43,000: Drama deledu'n annog is-bostfeistr arall i ddweud ei stori

Sgandal Swyddfa'r Post: Y rhaglen Gymraeg ddaeth o hyd i fwy o achosion

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.