Colli dros £43,000: Drama deledu'n annog is-bostfeistr arall i ddweud ei stori

Colli dros £43,000: Drama deledu'n annog is-bostfeistr arall i ddweud ei stori
Mae cyn is-bostfeistr sy'n siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' wedi dweud wrth Newyddion S4C am yr effaith gafodd system ddiffygiol Horizon ar ei fusnes a'i deulu.
Mae Cled Jones o Fethel ger Caernarfon yn dweud iddo orfod talu dros £43,000 i wneud yn iawn am golledion ariannol honedig.
Dim ond wedi i ddrama deledu ddweud stori cannoedd o is-bostfeistri mewn sefyllfa debyg, y penderfynodd Cled Jones (71) a’i wraig Susan, ddweud wrth aelodau o'u teulu.
Dros gyfnod o 14 mlynedd tra’n rhedeg y post ym Methel maen nhw wedi talu "miloedd" o'u cynilion dros gyfnodau gwahanol i dalu am y diffygion ariannol honedig.
Yn 2011 mi gafodd Cled ei wahardd o’i waith am chwe wythnos, cyn cael sioc arall bum mlynedd yn ôl.
"2019 ges i audit, on i'n gwbod bod fi'n champion achos on i di neud yr audit ddydd Mercher cynt, a dyma hi'n troi rownd a dweud bo fi £10,000 mil yn short,"meddai.
"A dyma fi'n dweud ma hynny'n imposible achos dwi di neud y balans. Ti £10,000 yn short, medda hi a os nad wyt ti'n talu fo fyddi di'n gorfod mynd i'r cwrt.
"So nath Susan redeg adre a nôl y pres a rhoi'r £10,000 i mewn a dyma sut nesh i gadw post adeg hynny. Ma pobl yn meddwl bo ni di gorffen am bo ni'n hen."
Dywedodd fod y sefyllfa wedi ei gwneud hi’n “amhosib yn ariannol i barhau efo’r busnes.”
"Dros 14 blynedd on i efo nhw, ma total fi rwan yn £43,700 dwi di talu o boced fy hun. Ond sneb yn gwbod, achos da ni di cadw fo'i gyd yn ddistaw, tan ma hwn di dod allan ar y teledu. Rwan mae’r plant yn gwbod, o'n nhw ddim yn gwbod cynt."
Bu’n rhedeg swyddfa bost a siop y pentref gyda’i wraig Susan am un mlynedd ar bymtheg cyn ymddeol ym mis Chwefror 2020.
Mae’n egluro sut yr oedd wedi codi materion yn ymwneud â phroblemau gyda system Horizon dro ar ôl tro ond “ni fyddai neb yn gwrando.” Dywedodd nad oedd Swyddfa’r Post “eisiau gwybod fy ochr i”.
Mi ffoniodd llinell gymorth gannoedd o weithiau, meddai.
“Bob tro o'n i'n ffonio yr helpline, odda nhw yn deud wrtha chdi am neud pethau ar dy gompiwtar, a ti’n gneud a wedyn deud wrthyn nhw – na 'di o ddim wedi mynd ona.. a wedyn ma nhw’n deud ‘o paid a poeni mi ddaw o o 'na’”
A wedyn mi rodd Cled yn holi “felly ma na bobol erill yn cwyno?” a’r ateb gafodd o ben arall y lein “Na, chdi ydi’r unig un”
“A rwan ar ôl gweld be sy’n mynd ymlaen – dim fi ydi’r unig un.”
Mae Susan Jones, oedd yn helpu ei gwr i redeg y siop oedd yn sownd i’r post yn dweud fod “lot o bobol wedi bod yn brilliant efo ni”
Ond, roedd eraill wedi troi eu cefnau.
“Dwi wedi cael pobol ar stryd yn rhoi dipyn bach o verbal abuse i fi ond doeddan nhw ddim yn dallt.”
Pan gafodd Cled ei wahardd am chwe wythnos nol yn 2011, mae Susan yn cofio’r ymateb gan rai wrth iddi gerdded am dro o gwmpas y pentref.
“Gesh i un de, oni jest yn cerddad ar y lôn yng ngwaelod y pentra, a nath y person ma - fel oni yn cerddad - just poeri o mlaen i.
“Ataf fi, nid arna fi, reit o mlaen i”
“Oni jest ddim yn coelio’r peth, ond oedd on torri calon fi.”
Wedi’i gynrychioli gan y cwmni cyfreithiol cenedlaethol Freeths, sydd wedi’i benodi gan y Llywodraeth i weithio gyda Chynghrair Cyfiawnder dros Bostfeistri (JFSA), mae Cled yn un o’r cannoedd o gyn-bostfeistri sy’n ymladd am iawndal.
Wrth gwrs, mae’r arian sy’n cael ei golli yn bwysig” meddai Cled, “Ond y prif beth rydw i eisiau yw ymddiheuriad”.
“Dw i eisiau gallu dal llythyr o ymddiheuriad gan Swyddfa’r Post a’i ddangos i bawb.”
Mae’r cwpl yn dweud y basa nhw dal yn rhedeg y siop a’r post heblaw am yr holl straen ariannol.
“Clirio’n enw dwi ishio” meddai Cled. “Dio’m yn poeni fi am y pres”
“Oce, os dwi’n cael pres fi’n ôl gora’n byd, ond clirio’n enw dwi ishio. I bobol y pentra ma a pentra o gwmpas fama oedd yn dwad ata ni i’r swyddfa, dwi isio iddyn nhw weld a deud – ‘yli nath o ddim byd’”