Newyddion S4C

Sgandal Swyddfa'r Post: Y rhaglen Gymraeg ddaeth o hyd i fwy o achosion

11/01/2024

Sgandal Swyddfa'r Post: Y rhaglen Gymraeg ddaeth o hyd i fwy o achosion

Wrth i  Taro 9 - Sgandal y Swyddfa Bost gael ei hailddarlledu ar S4C nos Iau, mae dau o newyddiadurwyr  y rhaglen wedi rhannu eu hatgofion bymtheg mlynedd yn ddiweddarach. 

Dyma oedd y rhaglen materion cyfoes gyntaf yn unman i ymchwilio i'r anghyfiawnder arweiniodd at gannoedd o is-bostfeistri diniwed yn cael eu herlyn drwy'r llysoedd oherwydd bod nam ar system gyfrifiadurol. 

Ddydd Mercher, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU Rishi Sunak gynlluniau i wrthdroi euogfarnau cannoedd o is-bostfeistri Swyddfa’r Post a gafodd eu cyhuddo ar gam yn sgil sgandal Horizon. 

Fe wnaeth meddalwedd Horizon arwain at achosion troseddol yn erbyn 700 o is-bosteistri, gan gynnwys nifer yng Nghymru, am fod y system honno wedi gwneud iddi ymddangos fod arian ar goll.

'Tynnu sylw'

Wedi i gylchgrawn Computer Weekly gyhoeddi fod yna amheuon am achosion saith o is-bostfeistri, fe wnaeth Anna-Marie Robinson a Bryn Jones ddechrau ymchwilio. Fe ddaethon nhw o hyd i 29 achos arall. 

"Yn wreiddiol, oedd Computer Weekly wedi gwneud y stori yn gyntaf ym mis Mai 2009, ag oedd 'na Gymro Cymraeg eithaf adnabyddus fyny yn gogledd-orllewin Cymru, Noel Thomas, yn un o'r saith nath gael eu henwi gan Computer Weekly," meddai Bryn Jones wrth Newyddion S4C. 

"Nath Sion Tecwyn, newyddiadurwr BBC Bangor, bigo fyny ar y stori ag adrodd ar y stori a chyfweld Noel Thomas ac yn sgil hwnna rili nath y stori ddod i'n sylw ni - dwi ddim hyd yn oed yn cofio'r adroddiad newyddion achos doedd 'na ddim rhyw ffys mawr ar y pryd. 

"Nath o dynnu ein sylw ni a wedyn natho ni benderfynu ella bod 'na rwbath yma i ni a threulio'r wsnosa wedyn yn edrych i fewn iddo fo a sylwi bod 'na rwbath yna."

'Sialens'

Roedd "dyletswydd" ar newyddiadurwyr y gyfres i adrodd am yr anghyfiawnder yn ôl Anna-Marie Robinson. 

"Unwaith natho ni sylweddoli a sbio ar ein gilydd ar ôl ychydig o wythnosa'; 'Ti 'di cael rywun arall?' 'Do' 'Finna hefyd' - natho ni jyst meddwl 'Be sy'n mynd ymlaen yn fama? Mae 'na ddyletswydd arnom ni i gario 'mlaen efo'r ymchwil yma ag i berswadio ein penaethiaid ni i adael i ni ddarlledu rwbath am y tro cyntaf 'chos doedd 'na ddim byd wedi bod ar y radio na'r teledu o blaen yn honni hyn. 

"I gymryd sefydliad mor fawr â Swyddfa'r Post ymlaen, oedd o'n dipyn o sialens i dîm bach o bobl materion cyfoes oedd yn gweithio yn Gymraeg ar y pryd. 

"Ein gwaith ni oedd herio, ffindio straeon ymchwiliadol i fynd ar eu holau nhw, i dorri pethau nad oedd pobl wedi eu clywed o'r blaen yn Gymraeg.."

'Heriol yn emosiynol'

Roedd y profiad o ddweud wrth sawl postfeistr mai nid nhw oedd yr unig un i gael eu heffeithio yn un heriol ac emosiynol hefyd yn ôl Anna-Marie Robinson. 

"Be oedd yn heriol hefyd oedd bo' chdi'n dod ar draws pobl nad oedd yn gwybod bo' nhw wedi dioddef, bo' nhw wedi cael eu canfod yn euog ar gam, bod nhw ddim wedi troseddu," meddai. 

"Yr emosiwn oedd yn mynd efo hynna pan oedda ti'n codi'r ffôn a deud 'Yda chi'n gwbod bod 'na bobl eraill?' a doeddan nhw ddim achos oeddan nhw, fel oedda chi'n gweld yn y ddrama, yn meddwl mai dim ond nhw oedd wedi gwneud rhywbeth o'i le ag ella wedi pledio yn euog. 

"Felly oedd o'n heriol yn emosiynol i rannu'r newyddion yna efo pobl ond hefyd, oedd na foddhad ofnadwy wedyn yn gallu mynd yn ôl at rywun fel Noel Thomas a Jo Hamilton a Lee Castleton a deud wrthyn nhw 'Dim jyst chi ydio, dim jyst y saith ohona chi ond ma' 'na dros 30 ohona chi ar hyn o bryd."

O 2009 i 2024

Mae'n bwysig ailddarlledu y rhaglen er mwyn gwneud i bobl  ddeall pryd y gwnaeth yr honiadau ddechrau yn ôl Bryn Jones. 

"Mae'n bwysig bod pobl yn gwybod be oedd dechra'r stori a pryd nath o ddechra', pryd oedd o'n gyhoeddus gyntaf er mwyn sylweddoli a gofyn cwestiyna pam bod o wedi cymryd 15 mlynadd iddyn nhw gael cyfiawnder," meddai. 

"2009 oedd y rhaglen - mae rwan yn 2024 a dim ond rwan ma'n edrych fatha bod y cyfan am ddod i ben felly ma'n bwysig i ddangos o fel bod pobl yn gweld hyd yn oed bryd hynny be oedd yr honiadau achos,  o wylio fo, does 'na ddim lot fawr wedi newid. 

"Ma'r prif gyhuddiada a'r honiada wedi aros yr un peth - dim ond bod y niferoedd wedi tyfu a'r sgandal wedi tyfu tu hwnt i unrhyw beth fysa rhywun wedi ddychmygu yn ôl yn 2009."

Fe fydd 'Taro 9 - Sgandal y Swyddfa Bost' yn cael ei darlledu ar S4C nos Iau am 21:45. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.