Porthladd Caergybi yn ailagor ar ôl difrod i un o longau Stena Line

Caergybi

Mae Porthladd Caergybi ym Môn wedi ailagor ar ôl iddo gau am gyfnod ddydd Mercher yn sgil difrod i un o longau cwmni Stena Line.

Dywedodd Stena Line wrth Newyddion S4C fod "digwyddiad angori" wrth i fferi'r Stena Estrid ddocio ym Mhorthladd Caerygbi.

Ond fe gadarnhaodd y cwmni yn ddiweddarach fod y porthladd wedi ailagor am 17.30 brynhawn Mercher, gyda'r amserlen yn dychwelyd i'r arfer.

"Yn dilyn digwyddiad angori ddydd Mercher ym Mhorthladd Caergybi, cafodd y Stena Estrid rywfaint o ddifrod sydd angen ei atgyweirio," meddai'r cwmni mewn datganiad.

"Mae’r llong yn cael ei symud yn ddiogel i ffwrdd o Angorfa 3 i ganiatáu i’r gwaith atgyweirio ddechrau a bydd y porthladd yn ailagor am 17.30. 

"Bydd y Stena Nordica yn disodli’r Stena Estrid ar lwybr Dulyn – Caergybi nes bod yr atgyweiriadau angenrheidiol wedi’u gwneud.

"Bydd ein hamserlen hwylio yn ailddechrau fel arfer heno."

'Testun pryder'

Wrth ymateb i'r digwyddiad yn gynharach, dywedodd Llinos Medi, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ynys Môn: "Mae'n destun pryder gweld Porthladd Caergybi ar gau unwaith eto oherwydd problem angori.

"Rwy'n deall y rhwystredigaeth y mae hyn yn ei hachosi i deithwyr, cludwyr a busnesau lleol, ac rwyf mewn cysylltiad â Stena i sicrhau bod etholwyr Ynys Môn yn cael eu hysbysu am unrhyw ddiweddariadau.
 
"Ar ôl problemau dro ar ôl tro, mae'n hanfodol bod gennym hyder yng ngwydnwch hirdymor y porthladd."
 
Ychwanegodd yr Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth AS: "Mae'n bryderus ein bod ni mewn sefyllfa, unwaith eto, lle mae Porthladd Caergybi wedi gorfod cau oherwydd damwain. 
 
"Bydd teithwyr, cludwyr, a busnesau lleol yng Nghaergybi yn poeni ac yn rhwystredig am y cyhoeddiad, ac rwy'n eu hannog i gysylltu â mi os gallaf fod o unrhyw gymorth.
 
"Yn dilyn nifer o ddigwyddiadau mae angen sicrwydd cadarn arnom ynghylch gwydnwch hirdymor y porthladd."
 
Canslo teithiau fferi
 
Roedd cwmni Irish Ferries hefyd wedi adrodd bod eu fferi rhwng Dulyn a Chaergybi am 13.45 wedi gorfod cael ei chanslo, tra bydd y gwasanaeth 20.55 bellach yn gadael am 19.45. 
 
Mae Irish Ferries wedi ymddiheuro i gwsmeriaid sydd wedi'u heffeithio am y "tarfu y tu hwnt i'w rheolaeth", gan ychwanegu y byddai'r cwmni yn cysylltu gyda'r rhai sydd wedi'u heffeithio.
 
Yn Rhagfyr 2024, fe gafodd yr holl wasanaethau fferi yn y porthladd, sy’n eiddo i Stena Line, eu canslo ar ôl i Storm Darragh ddifrodi dwy derfynfa yn y porthladd. 
 
Bu oedi wrth ddosbarthu parseli dros gyfnod y Nadolig hwnnw, ac fe gafodd miloedd o bobl oedd yn teithio adref eu heffeithio. 
 
Fe gafodd y porthladd ei ailagor yn llawn fis Gorffennaf y llynedd, ar ôl agor yn rhannol fis Ionawr. 
 
Beirniadaeth
 

Fe wnaeth adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2025 gan Bwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd feirniadu ymateb Llywodraeth Cymru i drafferthion Porthladd Caergybi ar ddiwedd 2024 a dechrau 2025.

Roedd y pwyllgor o'r farn y gallai'r digwyddiad fod wedi'i reoli'n well pe bai’r Ysgrifennydd Cabinet penodol yn arwain ymateb Llywodraeth Cymru.

Beirniadodd y pwyllgor y ffaith nad oedd eu tystion yn siŵr pwy yn Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am ymdrin â chau’r porthladd.

Roedd dryswch ai'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth neu Ysgrifennydd yr Economi oedd yn gyfrifol, meddai'r adroddiad.

Llun: Dafydd Edwards


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.