Cystadleuydd Race Across the World wedi marw flwyddyn ar ôl colli ei mab
Mae un o gystadleuwyr Race Across the World wedi marw yn 61 oed, flwyddyn ar ôl i’w mab a’i chyd-gystadleuydd Sam farw yn dilyn damwain car.
Roedd Jo Gardiner a’r mab wedi cystadlu yn ail gyfres rhaglen deithio’r BBC yn 2020, gan deithio ar draws De America gyda’i gilydd.
Dywedodd ei theulu mewn datganiad fod Ms Gardiner wedi marw “yn dilyn brwydr hir a dewr yn erbyn canser”.
Roedd y ffisiotherapydd o Fanceinion yn “anturiaethwraig ddewr, garedig a ffraeth, oedd yn caru’n ddiddiwedd”, medda'r teulu.
Ychwanegodd y datganiad: “Roedd ganddi ddawn brin i wneud i bawb o’i chwmpas deimlo’n fwy byw. Roedd hi’n byw bywyd i’r eithaf ac yn angerddol, a byth yn gwneud dim oedd hanner ffordd.
“Roedd wedi’i bendithio â ffrindiau di-ri, oedd yn cael eu denu at ei chymeriad arbennig.
“I ni, roedd hi’n fwy na’r holl bethau hynny. Hi oedd ein teulu, ein llawenydd, ein lle diogel a’n trysor pennaf.
“Rydym yn gwybod cymaint oedd Jo yn cael ei charu, ac rydym yn cael cysur o wybod y bydd ei chwerthin, ei dewrder, ei charedigrwydd a’i hysbryd hyfryd o afieithus yn parhau ym mywydau’r nifer fawr o bobl y gwnaeth hi eu cyffwrdd.
“Roedd hi’n unigryw. Fydd neb arall tebyg iddi.”
Mae'n gadael ei mab, Charlie.
Bu farw ei mab arall, Sam, oedd wedi ymddangos ar y rhaglen gyda hi, ym mis Mehefin 2025 yn 24 oed.
Roedd ei gar Volkswagen Golf R gwyn wedi dod oddi ar ffordd cyn glanio ar ei ochr.
Roedd y garddwr tirwedd wedi bod yn gweithio ar ystâd anghysbell ar arfordir gorllewinol yr Alban ac wedi dychwelyd adref i Fanceinion ar gyfer digwyddiad teuluol.
Roedd Jo Gardiner wedi penderfynu cystadlu yn Race Across the World am ei bod eisiau mynd ar antur gyda Sam, oedd ag ADHD.
Roedden nhw’n cystadlu yn erbyn pedwar pâr arall, gan rasio o Ddinas Mecsico i Ushuaia yn yr Ariannin.
Dywedodd llefarydd ar ran Race Across the World: “Ar ran tîm cynhyrchu Studio Lambert, y BBC a holl gast Race Across the World, rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf a mwyaf diffuant at fab Jo, Charlie, a’i theulu a’i ffrindiau ehangach.
“Yn dilyn marwolaeth drasig Sam, mab Jo, y llynedd, fe wnaethom dalu teyrnged i ba mor ganolog oedd Sam a Jo i’r ail gyfres.
“Roedd miliynau o bobl yn cofio eu taith drawsnewidiol ar draws America Ladin yn 2020, ac rydym yn cadw’r atgof hwnnw yn ein calonnau wrth gofio hoffter Jo o fywyd, ei charedigrwydd, ei chryfder ac, yn fwy na dim, ei hymroddiad llwyr i Sam a’i theulu.
“Ar adeg y ffilmio, disgrifiodd Sam ei fam fel rhywun anhygoel, a dyna sut y byddwn ni wastad yn ei chofio.
“Daeth Jo yn fam i deulu cast Race Across the World. Mae’n gadael gwaddol parhaol ym mywydau’r nifer fawr o bobl y gwnaeth hi eu cyffwrdd, drwy’r gyfres a thu hwnt.
“Roedd hi’n fraint rhannu ei stori a bydd colled fawr ar ei hôl.”
Roedd Ms Gardiner, oedd â diabetes math 1, yn llysgennad i Diabetes UK.
Mae ei theulu wedi sefydlu tudalen JustGiving yn ei henw, gyda’r holl gyfraniadau’n mynd i gefnogi Diabetes UK.