Mae Porthladd Caergybi ym Môn ar gau dros dro wedi digwyddiad yno fore Mercher.
Mewn datganiad, dywedodd cwmni Stena Line wrth Newyddion S4C fod "digwyddiad angori wedi digwydd wrth i fferi y Stena Estrid ddocio ym Mhorthladd Caerygbi.
"Mae'r teithwyr wedi dod oddi ar y llong ac mae'r digwyddiad yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd."
Ychwanegodd y cwmni fod Porthladd Caergybi ar gau dros dro a fod y cwmnïau fferi yn hysbysu eu cwsmeriaid am yr hyn sydd wedi digwydd.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Môn, Dylan J Williams eu bod nhw mewn cysylltiad rheolaidd gyda'r Awdurdod Porthladd "ac yn obeithiol na fydd y porthladd wedi cau am gyfnod sylweddol".
"Fodd bynnag, mae'r Cyngor Sir yn cydweithio gyda phartneriaid i geisio lliniaru effeithiau lleol os bydd y porthladd ar gau am gyfnod estynedig," meddai.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Rwyf wedi cyfarfod â Stena sef awdurdod y Porthladd ac sydd yn gyfrifol am y seilwaith heddiw.
"Mae'r porthladd ar gau dros dro tra bod Stena yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad ac fe fyddan nhw yn darparu diweddariad yn ddiweddarach heddiw. Fe fyddaf i yn parhau mewn cyswllt agos â nhw."
'Testun pryder'
Wrth ymateb i'r digwyddiad, dywedodd Llinos Medi, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ynys Môn: "Mae'n destun pryder gweld Porthladd Caergybi ar gau unwaith eto oherwydd problem angori.
"Rwy'n deall y rhwystredigaeth y mae hyn yn ei hachosi i deithwyr, cludwyr a busnesau lleol, ac rwyf mewn cysylltiad â Stena i sicrhau bod etholwyr Ynys Môn yn cael eu hysbysu am unrhyw ddiweddariadau.
"Ar ôl problemau dro ar ôl tro, mae'n hanfodol bod gennym hyder yng ngwydnwch hirdymor y porthladd."
Ychwanegodd yr Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth AS: "Mae'n bryderus ein bod ni mewn sefyllfa, unwaith eto, lle mae Porthladd Caergybi wedi gorfod cau oherwydd damwain.
"Bydd teithwyr, cludwyr, a busnesau lleol yng Nghaergybi yn poeni ac yn rhwystredig am y cyhoeddiad, ac rwy'n eu hannog i gysylltu â mi os gallaf fod o unrhyw gymorth.
"Byddaf yn cysylltu â Stena Line a Llywodraeth Cymru ar frys i ddeall beth sy'n cael ei wneud i ailagor y porthladd cyn gynted â phosibl. Yn dilyn nifer o ddigwyddiadau mae angen sicrwydd cadarn arnom ynghylch gwydnwch hirdymor y porthladd."
Canslo teithiau fferi
Mae cwmni Irish Ferries yn adrodd bod y fferi rhwng Dulyn a Chaergybi am 13.45 wedi'i chanslo, tra bydd y gwasanaeth 20.55 bellach yn gadael am 19.45.
Dywedodd y cwmni brynhawn Mercher eu bod yn disgwyl i'r sefyllfa gael ei ddatrys yn ystod y prynhawn ac y dylai gwasanaethau ddychwelyd i'r arfer am 19.30.
Mae Irish Ferries wedi ymddiheuro i gwsmeriaid sydd wedi'u heffeithio am y "tarfu y tu hwnt i'w rheolaeth", gan ychwanegu y byddai'r cwmni yn cysylltu gyda'r rhai sydd wedi'u heffeithio.
Dywedodd An Post, Gwasanaeth Post Gweriniaeth Iwerddon, mewn datganiad ddydd Mercher eu bod "ar ddeall fod y porthladd yn gweithredu gan ddefnyddio un angorfa yn unig ac ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gychod yn gallu mynd i mewn nac allan o'r porthladd."
Ychwanegodd y gwasanaeth eu bod yn disgwyl y bydd y digwyddiad yn effeithio ar wasanaethau fferi yn cael eu canslo ddydd Mercher yn ogystal â chyflenwadau rhyngwladol dros y dyddiau nesaf.
Yn Rhagfyr 2024, fe gafodd yr holl wasanaethau fferi yn y porthladd, sy’n eiddo i Stena Line, eu canslo ar ôl i Storm Darragh ddifrodi dwy derfynfa yn y porthladd.
Bu oedi wrth ddosbarthu parseli dros gyfnod y Nadolig hwnnw, ac fe gafodd miloedd o bobl oedd yn teithio adref eu heffeithio.
Fe gafodd y porthladd ei ailagor yn llawn fis Gorffennaf y llynedd, ar ôl agor yn rhannol fis Ionawr.
Beirniadaeth
Fe wnaeth adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2025 gan Bwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd feirniadu ymateb Llywodraeth Cymru i drafferthion Porthladd Caergybi ar ddiwedd 2024 a dechrau 2025.
Roedd y pwyllgor o'r farn y gallai'r digwyddiad fod wedi'i reoli'n well pe bai’r Ysgrifennydd Cabinet penodol yn arwain ymateb Llywodraeth Cymru.
Beirniadodd y pwyllgor y ffaith nad oedd eu tystion yn siŵr pwy yn Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am ymdrin â chau’r porthladd.
Roedd dryswch ai'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth neu Ysgrifennydd yr Economi oedd yn gyfrifol, meddai'r adroddiad.
Llun: Dafydd Edwards