Prydain wedi cefnogi lluoedd America i gipio tancer yn yr Iwerydd

(Llun: PA)

Mae Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU wedi cadarnhau fod lluoedd Prydain wedi chwarae rhan wrth gefnogi ymdrechion lluoedd America i gipio tancer olew oedd yn arddangos baner Rwsia wrth iddi hwylio yng ngogledd yr Iwerydd ddydd Mercher.

Mae'r tancer wedi'i chyhuddo o dorri sancsiynau America drwy gludo olew Iranaidd - mae'r llong yn hanesyddol wedi cludo olew crai o Venezuela ond mae adroddiadau ddydd Mercher wedi awgrymu fod y tancer yn wag ar hyn o bryd.

Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn, roedd y cyrch i gipio'r llong yn cynnwys awyrennau'r RAF.

Mewn datganiad gan y Weinyddiaeth, dywedodd Ysgrifennydd Amddiffyn y DU, John Healey: "Heddiw, fe ddangosodd ein Lluoedd Arfog yn y DU sgil a phroffesiynoldeb wrth gefnogi'r weithred gipio lwyddiannus gan America o'r llong 'Bella 1' wrth iddi wneud ei ffordd i Rwsia.

"Roedd y weithred hon yn rhan o ymdrechion byd-eang i fynd i'r afael â gwladwriaethau yn anwybyddu sancsiynau.

"Mae'r llong hon, sydd â hanes ddigon drygionus, yn rhan o echel Rwsiaidd-Iranaidd o osgoi sancsiynau sy'n cefnogi terfysgaeth, gwrthdaro a thrallod o'r Dwyrain Canol i Wcráin.

"Bydd y DU yn parhau i gynyddu ein camau gweithredu yn erbyn gweithgaredd o'r fath i amddiffyn ein diogelwch cenedlaethol, ein heconomi a sefydlogrwydd byd-eang - gan wneud Prydain yn ddiogel gartref ac yn gryf dramor."

Mae Moscow wedi ymateb i'r datblygiadau yng ngogledd yr Iwerydd, gan ddweud "mai dim ond dros dro yr oedd y tancer wedi'i chysylltu â Rwsia", ac "nad oes gan unrhyw wladwriaeth yr hawl i ddefnyddio grym yn erbyn llongau sydd wedi'u cofrestru'n briodol yn awdurdodaethau gwledydd eraill". 

Llun: PA

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.