'Athro gwych Ystalyfera': John Hopkin Evans wedi marw'n 89 oed

John Hopkin Evans

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r addysgwr John Hopkin Evans, yn dilyn ei farwolaeth yn 89 oed.

Yn ogystal â gweithio fel pennaeth adran y Gymraeg yn Ysgol Ystalyfera am ddegawdau, roedd Mr Evans yn “ymgyrchydd di-flino dros y Gymraeg yng Nghwm Tawe”.

Yn un o sefydlwyr Ysgol Gymraeg Pontardawe ac Ysgol Gymraeg Ystalyfera, roedd ei gyfraniad i’r byd addysg a'r iaith Gymraeg yn sylweddol. 

Bu’n bennaeth ar adran y Gymraeg yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera rhwng 1964 a 1993, ac fe wasanaethodd fel Llywydd Cenedlaethol Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn ystod yr 1980au.

Roedd hefyd yn un o sefydlwyr papur bro Y Llais yn ardal Cwm Tawe yn 1977, ac yn aelod blaenllaw o aelwyd yr Urdd yn yr ardal.

Yn ôl ei deulu, roedd rygbi yn rhan bwysig o’i fywyd, ac yn ogystal â bod yn gefnogwr brwd o’r Gweilch, roedd wedi bod yn ysgrifennydd ar Glwb Rygbi Cwmllynfell.

'Cawr o ddyn'

Mae nifer wedi rhannu eu teyrngedau ac atgofion ohono ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn eu plith mae Wynne Melville Jones, sy'n dweud: "Rwyn gallu clywed ei lais nawr - yn llawn afiaeth dros yr Iaith a phopeth Cymraeg. 

“Colled fawr i deulu a chenedl. Bu ef a fy chwaer yn gyd-athrawon a roedd hi'n meddwl y byd ohono."

Dywedodd y cyflwynydd tywydd a'r ddarlledwraig Siân Lloyd: "Roedd ein John Bach yn Ysgol Ystalyfera yn gawr o ddyn. 

“Cafodd ddylanwad anferth arnaf i a llawer o ddisgyblion eraill. Athro anhygoel a dyn hynod. Cymro i’r carn. Bonheddwr."

Yn ôl Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr dros Dro y Cenhedloedd gyda'r BBC, roedd yn "ddyn mor hyfryd - mi fuodd e mor garedig i mi pan ymgartrefais yng Nghwm Tawe am gyfnod. Roedd e hefyd bob amser mor falch o’i deulu a’i fro."

'Athro ymroddgar'

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd Heini Gruffudd: "Roedd ei egni, ei fwrlwm a‘i frwdfrydedd dros y pethau gorau‘n ysbrydoliaeth i ni i gyd."

Dywedodd y canwr Neil Rosser: "Flin iawn i glywed am y newyddion trist. Atgofion melys o'r gwersi Cymraeg yn yr hen Bloc 1 yn Ystalyfera. Pob Cydymdeimlad."

Fe ychwanegodd Huw Eurig, cyn bennaeth cynnwys S4C: “John ‘Bach’ oedd i ni, ei ddisgyblion yn Ystalyfera, ond ‘Mawr’ oedd ef mewn gwirionedd – mawr yn ei argyhoeddiadau dwfn a’i ymrwymiad i’r Gymraeg, ac yn ei ysbrydoliaeth a’i gefnogaeth i genedlaethau o ddisgyblion. 

“Mae fy nyled bersonol iddo, fel athro ymroddgar, cefnogol a charedig, yn amhrisiadwy. Coffa da am un o’r goreuon yn ein plith.”

Bu farw Mr Evans ar 4 Ionawr. 

Mae'n gadael gwraig, Brenda, ei ferch Catrin, ei fab yng nghyfraith, Rob a'i wyres Rosa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.