Cyhoeddi enw dyn sydd ar goll yn Aberteifi wrth i'r chwilio barhau

07/01/2026
Kurtis Brook
Kurtis Brook

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn sydd ar goll yn Aberteifi yng Ngheredigion wrth i'r ymgyrch i chwilio amdano barhau.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys brynhawn Mercher eu bod yn credu mai Kurtis Brook, 30 oed sy'n hanu o'r dref, sydd ar goll.

Mae swyddogion yn parhau i ddarparu cefnogaeth i'w deulu ac yn eu darparu gydag unrhyw ddiweddariadau.

Fe wnaeth y gwasanaethau brys dderbyn adroddiad am tua 05.15 fore Sul bod dyn wedi mynd i’r dŵr yn Aberteifi.

Mae'r heddlu ynghyd â gwasanaethau eraill, gan gynnwys y Gwasanaeth Tân ac Achub, Gwylwyr y Glannau a’r Bad Achub, wedi bod yn chwilio Afon Teifi ers hynny.

'Gwneud popeth o fewn ein gallu'

Dywedodd y Prif Arolygydd Richard Yelland eu bod yn "gwneud popeth o fewn ein gallu" i ddod o hyd i Mr Brook.

"Hoffem ddiolch unwaith eto i’r rhai sydd wedi helpu hyd yn hyn, ac rydym yn gofyn i aelodau’r cyhoedd barhau i gadw draw o lannau’r afon. 

"Rwy’n ymwybodol bod unigolion â bwriadau da wedi bod yn chwilio’r ddyfrffordd. Mae hyn yn dod â risg ddiangen a gall effeithio ar y gwaith chwilio parhaus. 

"Os oes ardaloedd sy'n cael eu hystyried yn ddiogel i’r gymuned eu chwilio, bydd hyn yn cael ei gyfleu trwy ein swyddogion.

"Os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai helpu swyddogion, neu os mai chi yw’r person a aeth i’r dŵr ac sydd bellach yn ddiogel, cysylltwch â ni."

Dylai unrhyw un sy’n cysylltu â’r llu ddyfynnu’r cyfeirnod 52, ynghyd â’r dyddiad, 4 Ionawr.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.