Rhybudd oren am eira i ran helaeth o Gymru ddiwedd yr wythnos
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren am eira i rannau helaeth o Gymru nos Iau.
Fe fydd y rhybudd mewn grym o 20:00 nos Iau tan 09:00 ddydd Gwener.
Daw hyn wedi i storm gynta'r flwyddyn gyrraedd y DU ddiwedd yr wythnos hefyd, gyda'r storm wedi’i henwi yn Storm Goretti gan Meteo France.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod rhwng 10cm a 15cm o eira yn debygol, a hynny yn weddol eang, gyda 20cm-30cm yn debygol mewn rhai ardaloedd.
Mae disgwyl i'r eira droi yn law ac eirlaw fore Gwener ond mae trafferthion yn sgil yr eira yn debygol o barhau yn ystod dydd Gwener yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Gwynedd
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Wrecsam
- Powys
- Sir Gâr
- Ceredigion
- Merthyr Tudful
- Torfaen
- Blaenau Gwent
- Sir Fynwy
- Rhondda Cynon Taf
- Caerffili
Mae rhybudd melyn am eira hefyd mewn grym o 17:00 nos Iau tan 12:00 fore Gwener.
Bydd y rhybudd hwn yn berthnasol i dalp helaeth o Gymru heblaw am ardaloedd arfordirol y gogledd.
“Mae'n debygol y bydd cyfnod o eira trwm yn datblygu dros dir uwch yn ne Cymru yn ddiweddarach ddydd Iau cyn i'r glaw droi'n eira dros rannau ehangach o Gymru a Lloegr yn ystod nos Iau,” meddai’r Swyddfa Dywydd.
“Mewn rhai ardaloedd, gall 5–10 cm o eira ddisgyn gyda'r potensial am hyd at 20 cm mewn rhai lleoliadau, yn enwedig dros dir uwch.
“Gall gwyntoedd cryfion arwain at rywfaint o eira'n symud. Yna bydd glaw ac eira'n clirio tua'r dwyrain yn ystod dydd Gwener.”
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law rhwng 12:00 ddydd Iau a 10:00 fore Gwener.
Fe fydd y rhybudd hwn yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Sir Gâr
- Ceredigion
- Castell-nedd Port Talbot
- Sir Benfro
- Abertawe
Mae yna rybudd melyn am wynt hefyd yn berthnasol i Sir Benfro rhwng 15:00 brynhawn Iau a 06:00 fore Gwener.