Cyfle i dri o chwaraewyr ffarwelio wrth i Gymru herio'r Barbariaid
Bydd Leigh Halfpenny, Alun Wyn Jones a Justin Tipuric yn ffarwelio gyda rygbi rhyngwladol pan fydd tîm Warren Gatland yn chwarae yn erbyn y Barbariaid ddydd Sadwrn.
Cyhoeddodd Halfpenny, sydd wedi ennill 101 o gapiau dros Gymru ei fod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol ym mis Hydref.
Bydd yn gwisgo crys coch Cymru am y tro olaf yn erbyn y Barbariaid yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn, tra bydd dau o chwaraewyr y Barbariaid yn cael cyfle i ddweud ffarwel ar ddiwedd eu gyrfaoedd rhyngwladol hefyd.
Fe wnaeth Alun Wyn Jones a Justin Tipuric gyhoeddi eu bod ymddeol o rygbi rhynwgladol ar 19 Mai.
Roedd eu gemau olaf dros Gymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc ym Mharis ym mis Mawrth.
Bydd gan y ddau, ynghyd â Halfpenny y cyfle i ffarwelio â chefnogwyr Cymru ddydd Sadwrn.
Cydnabyddiaeth
Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg cyn y gêm, dywedodd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland ei fod yn gyfle i ddangos gwerthfawrogiad a chydnabod yr hyn mae'r chwaraewyr wedi cyflawni dros eu gwlad.
"Dyma fydd y tro olaf i Halfpenny chwarae yn gwisgo crys coch Cymru ond hefyd yn gyfle i gefnogwyr gweld a dathlu Alun Wyn Jones a Justin Tipuric yn chwarae rygbi rhyngwladol am y tro olaf.
"Mae'n rhywbeth rydym wedi bod yn siarad amdano llawer yn ystod yr wythnos, fe fydd gydnabyddiaeth i'r chwaraewyr," meddai.
"Mae Tipuric yn cael y cyfle gyda'r Barbariaid i gydnabod ei gyfraniad, ac Alun Wyn a Leigh.
"Mae ganddyn nhw gyfle i ddod â'u gyrfaoedd i ben, eu penderfyniad nhw yw hynny a dwi'n parchu hynny ac yn eu parchu nhw.
"Gobeithio bydd dydd Sadwrn yn diwrnod da i'r tri chwaraewr."
Llun: Asiantaeth Huw Evans