Leigh Halfpenny i ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl gêm y Barbariaid
Mae Leigh Halfpenny wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl ei gêm nesaf.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd ei fod wedi cael "amser i feddwl" ar ôl ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd.
Fe fydd yn chwarae yn erbyn y Barbariaid yn y gêm ar 4 Tachwedd.
Dywedodd nad oedd y penderfyniad "wedi bod yn un hawdd" a'i fod yn "edrych ymlaen at redeg allan unwaith eto yn erbyn y Barbariaid yr wythnos nesaf".
Mae'n ymuno â'r maswr Dan Biggar sydd eisoes wedi cadarnhau ei fod yn ymddeol.
Bydd gêm y Barbariaid hefyd yn gyfle i ffarwelio â chyn-gapten Cymru Alun Wyn Jones a fydd yn chwarae i'r ymwelwyr.
Inline Tweet: https://twitter.com/LeighHalfpenny1/status/1717118910770692329?s=20
'Breuddwyd'
“Mae wedi bod yn fraint ac anrhydedd gwisgo crys Cymru a chynrychioli fy ngwlad dros y 15 mlynedd diwethaf,” meddai Leigh Halfpenny.
“Roedd yn freuddwyd fel plentyn yn tyfu i fyny i gael chwarae dros Gymru ac rydw i wedi cael y cyfle i greu atgofion anhygoel.
“Doedd pethau ddim yn fêl i gyd ond fe fyddaf yn edrych yn ôl ar fy ngyrfa ryngwladol gyda balchder aruthrol.
“Does dim teimlad gwell 'na rhedeg allan i Stadiwm Principality yn gwisgo crys Cymru a chanu’r anthem genedlaethol.
“Rydw i’n mynd i weld ei eisiau, ond byddaf yn ddiolchgar am byth am y cyfleoedd rydw i wedi’u cael ac i bob un person sydd wedi fy helpu ar hyd y ffordd.”
