Gweddw o Gaerffili yn galw am newid yn y gyfraith wedi marwolaeth ei gŵr
Mae gwraig weddw o Gaerffili yn galw am newid yn y gyfraith er mwyn cysoni’r gofal sy'n cael ei dderbyn gan bobl sy’n dioddef o diwmor ar yr ymennydd.
Mae Ellie James yn dweud bod “loteri cod post” yn bodoli ar hyn o bryd, gan olygu nad yw rhai cleifion yn derbyn triniaeth y mae hi’n dweud y gallai achub eu bywydau.
Bu farw gŵr Mrs James, Owain, yn 2024 wedi iddo ddioddef o fath o diwmor ar yr ymennydd o’r enw glioblastoma.
Roedd Owain, a oedd yn dad i un plentyn, wedi marw ar ôl iddo wynebu heriau wrth geisio derbyn triniaeth benodol.
Roedd hynny oherwydd nad oedd y rhan fwyaf o’i diwmor – a gafodd ei dynnu yn ystod llawdriniaeth – wedi cael ei rewi.
Mae Mrs James bellach yn ymgyrchu er mwyn ceisio sicrhau bod gan gleifion yr hawl i rewi eu meinweoedd a’u storio ar ôl llawdriniaethau.
Byddai hynny’n golygu y gallai cleifion gael mynediad at driniaeth bersonol a phrofion genetig.
Mae’r weddw 36 oed yn dweud bod y broses hon yn “anghyson” ar hyn o bryd, gan olygu bod yna “loteri cod post” yn y gofal mae pobl yn ei dderbyn gan y gwasanaeth iechyd ledled y DU.
Mae’n galw am newid yn y gyfraith, sef Deddf Owain, a fyddai’n caniatáu i gleifion gael penderfynu beth sy’n digwydd i’w meinweoedd.
Bydd y mater bellach yn cael ei drafod yn Neuadd Westminster ddydd Mercher.
Deddf Owain
Cafodd Owain James ddiagnosis o ganser yr ymennydd ym mis Medi 2022.
Roedd ganddo diwmor 14cm o faint. Fe lwyddodd meddygon i dynnu hanner o’r tiwmor yn ystod llawdriniaeth. Wedi’r llawdriniaeth honno, fe wnaeth ei deulu godi arian er mwyn iddo allu derbyn triniaeth bersonol.
Ond dywedodd Mrs James: “Yr hyn na wnaethom ni sylweddoli ar y pryd oedd bod angen defnyddio meinwe tiwmor, oedd wedi’i rewi’n ffres, er mwyn iddo gael y brechlyn hwnnw.”
Cafodd 6cm o’i diwmor ei roi mewn cemegyn oedd yn golygu nad oedd modd ei ddefnyddio ar gyfer ei driniaeth.
“Roedd hynny’n golygu mai dim ond darn bach iawn o feinwe oedd ar gael i wneud y brechlyn hwn,” meddai.
“Y mwyaf o feinweoedd sydd gennych chi ar gyfer creu’r brechlyn, y mwyaf o frechlynnau y gallwch chi eu cael.
“Ond gan mai ychydig iawn oedd ganddo, dim ond tri brechlyn a gafodd, pan ddylai fod wedi cael tua 30 mewn gwirionedd.”
Fe dderbyniodd Mr James y brechlynnau oedd ganddo, yn ogystal â llawdriniaethau, cemotherapi a radiotherapi, ac fe ddiflannodd gweddill y tiwmor am gyfnod.
“Yn anffodus, naw mis yn ddiweddarach, daeth y tiwmor yn ôl ac doeddwn ni ddim yn gallu cael mwy o’r brechlyn,” meddai Mrs James.
Pe baen nhw wedi derbyn 30 o frechlynnau yn y lle cyntaf, mae’n dweud y byddai ei gŵr “yn debygol o fod yma heddiw”.
Mae bellach yn benderfynol o sicrhau bod gan gleifion yr hawl i ddewis beth sy’n digwydd i’w meinweoedd.
“I mi, mae Deddf Owain yn ymwneud yn syml â rhoi’r hawl i bobl i ddewis a chael opsiynau,” meddai.