'Ma’ canabis ar hyn o bryd yn llawer mwy addictive'
Rhybudd: Mae’r erthygl hon yn trafod defnydd o gyffuriau.
Mae dyn o Gaerdydd yn dweud bod ei ddefnydd hirdymor o ganabis wedi “cymryd dros ei fywyd”, gan arwain at symptomau corfforol difrifol a'r ofn y gallai droi at gyffuriau cryfach yn y dyfodol.
Dywedodd y dyn, sydd eisiau aros yn ddienw, ei fod wedi dechrau ysmygu pan oedd yn ei arddegau cynnar.
“Nes i gychwyn pryd o’n i’n 13 neu 14… so fi wedi bod wrthi ers 14 mlynedd,” meddai.
“Nath e ddechrau fel rhywbeth cymdeithasol, ond wedyn nath e droi fewn i ffordd o ymdopi.”
Canabis yw’r cyffur anghyfreithlon mwyaf cyffredin yng Nghymru a Lloegr, yn ôl data y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Hefyd, mae astudiaeth gan ddarparwr triniaeth i bobl sy'n gaeth i gyffuriau, UKAT, yn awgrymu bod 60% o bobl sy’n derbyn triniaeth ar gyfer cyffuriau dosbarth A a B wedi dechrau defnyddio cyffuriau caled ar ôl defnyddio canabis.
Yn siarad am y tro cyntaf am ei broblemau ar gyfres newydd ar S4C, Cymru ar Gyffuriau, dywedodd y dyn bod “canabis sy’n cael ei werthu ar hyn o bryd llawer cryfach a llawer mwy addictive, ma’ delwyr yn chwistrellu fe gyda stwff sy’n neud e’n fwy addictive”.
Ychwanegodd: “Mae wedi rheoli bywyd fi ar adege… mae 'na adegau lle dwi di ysmygu fe o fore tan nos. Ma’ jest mor ynysig.”
Mae wedi ceisio stopio ysmygu canabis sawl gwaith.
“Fi ’di dioddef paranoia a pryder difrifol o ysmygu fe. Pan dwi wedi ceisio stopio, ma mor anodd… fi’n chwysu’n ddifrifol a’n cael hunllefau ofnadwy.”
Eglurodd bod yr hunllefau yn rhai ofnadwy o ddychrynllyd a’i fod yn teimlo mae'r ffordd y mae canabis wedi newid ers iddo ddechrau ei ddefnyddio sy’n gyfrifol am hyn.
“Ma’ canabis sy’n cael ei werthu ar hyn o bryd llawer cryfach a llawer mwy addictive, ma’ delwyr yn chwistrellu fe gyda stwff sy’n neud e’n fwy addictive.
“Dwi definitely di cymryd canabis sy’ mor processed dy’ o ddim yn teimlo fel natural high… mae o jest fel harder drug.”
Fe wnaeth Cymru ar Gyffuriau hefyd siarad gyda deliwr canabis o Gaerdydd, oedd yn cydnabod bod canabis yn cael ei dyfu gyda’r prif amcan i wneud elw.
“Ma’ pobol yn ychwanegu pethe i neud fwy o arian, bod yn farus a ceisio gwneud cwpwl o bunnoedd yn ychwanegol.”
Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerfaddon, mae cryfder canabis dros y 50 mlynedd diwethaf wedi tyfu’n gryfach yn rhyngwladol, ac felly yn cynyddu’r risg o niwed i ddefnyddwyr.
I weld mwy am y stori ewch i YouTube Hansh.