Carcharu dyn o Wrecsam am 14 o flynyddoedd am gynorthwyo hunanladdiad
Mae dyn o Wrecsam wedi ei garcharu am 14 o flynyddoedd wedi iddo annog neu gynorthwyo hunanladdiad ar ôl iddo werthu cemegyn i bedwar o bobl ar-lein.
Roedd Miles Cross, 33, wedi dechrau busnes yn gwerthu cemegyn ar fforwm drafod ar-lein, a hynny drwy ddefnyddio ffugenw.
Fe ymunodd â’r wefan ym mis Gorffennaf 2024 a chyhoeddodd gôd QR a oedd yn galluogi pobl i archebu’r cemegyn ganddo a thalu drwy ei gyfrif banc.
Fe dderbyniodd Cross daliadau o £100 gan bedwar o bobl ac anfonodd y cemegyn atyn nhw drwy’r post.
Fe ddywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod dau berson wedi lladd eu hunain o ganlyniad.
Mewn un achos, cyhuddwyd Cross o ddarparu cemegau ar Awst 22, 2024 i Ms Shubhreet Singh, 26 oed, a fu farw yn ddiweddarach yng Ngorllewin Sir Efrog.
Mae'r tair trosedd arall, a ddigwyddodd ym mis Awst a mis Medi 2024, yn ymwneud â phobl na ellir cyhoeddi eu henwau oherwydd cyfyngiadau cyfreithiol.
Pan aeth yr heddlu i gyfeiriad Cross ym mis Ionawr 2025, daeth swyddogion o hyd i gyflenwad o'r cemegyn.
Fe wnaeth yr heddlu hefyd ddod ar draws y fforwm drafod, ei broffiliau cyfryngau cymdeithasol a'r cyfrif banc.
Roedd Cross wedi pledio'n euog i bedwar achos o annog neu gynorthwyo hunanladdiad person arall mewn gwrandawiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 18 Tachwedd y llynedd.
'Cymryd mantais'
Cafodd Cross ei erlyn yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu’r Gogledd.
Dywedodd Alison Storey, Erlynydd Arbenigol gydag Adran Troseddau Arbennig Gwasanaeth Erlyn y Goron: "Roedd Miles Cross wedi cymryd mantais o bedwar o bobl mewn cyflwr gofidus a darparodd sylwedd a fyddai yn dod â’u bywydau i ben yn fwriadol.
"Roedd ei weithredoedd yn gyfan gwbl er mwyn elwa'n ariannol, a gwnaeth y broses o archebu’r cemegyn ar-lein yn hawdd ac yn hygyrch.
"Mae’r achos yma yn ein hatgoffa o’r peryglon sy'n cael eu hachosi gan y rhai sy’n anelu at gamfanteisio ar unigolion agored i niwed ar-lein."
Ychwanegodd: "Bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron bob amser yn anelu at ddwyn troseddwyr i gyfrif pan fyddant yn ceisio annog neu gynorthwyo hunanladdiad yn anghyfreithlon.
"Mae ein meddyliau’n parhau gyda theuluoedd y dioddefwyr, a gobeithiwn y bydd y canlyniad hwn yn dod â rhywfaint o gyfiawnder iddyn nhw."