Hwlffordd: Cyhuddo dau ddyn o achosi niwed corfforol difrifol i ddyn yn ei 60au
Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo wrth i'r heddlu ymchwilio i ymosodiad honedig ar ddyn yn ei 60au yn Hwlffordd ddydd Gwener.
Mae'r dyn hwnnw mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys wybod am y digwyddiad y tu allan i dafarn The William Owen ar Stryd y Cei tua 16.50.
Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr.
Mae dau ddyn, 37 a 41 oed, sef Mark Hambrook and John Simon, bellach wedi eu cyhuddo o o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.
Fe fydd y ddau yn ymddangos yn Llys Ynadon Hwlffordd fore dydd Llun.
Mae menyw 37 oed gafodd ei harestio wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd yr heddlu y bydd patrolau ychwanegol amlwg yn cael eu cynnal yn yr ardal er mwyn rhoi sicrwydd i’r gymuned.
Mae gorchymyn gwasgaru hefyd yn parhau mewn grym yng nghanol tref Hwlffordd.
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd ag unrhyw wybodaeth allai helpu gyda’r ymchwiliad, i gysylltu â nhw.