Dau o gewri rygbi Cymru'n cyhoeddi eu bod yn ymddeol o chwarae'n rhyngwladol

Mae dau o gewri rygbi Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn ymddeol o chwarae rygbi'n rhyngwladol.
Cyhoeddodd Alun Wyn Jones a Justin Tipuric eu bod yn ymddeol o chwarae rygbi dros Gymru ddydd Gwener.
Dywedodd Alun Wyn Jones ei fod wedi penderfynu ymddeol "ar ôl trafodaethau parhaus gyda'r tîm hyfforddi ac Undeb Rygbi Cymru.
"Felly ar ôl 17 mlynedd, dwi'n edrych yn ôl ar atgofion arbennig gyda mawrion Cymru a rhai o fawrion y dyfodol hefyd."
❤️ Diolch @AlunWynJones 🏴 pic.twitter.com/7L3rDsmY0T
— Welsh Rugby Union 🏴 (@WelshRugbyUnion) May 19, 2023
Yn 37 oed, Alun Wyn ydy'r chwaraewr sydd wedi hawlio’r mwyaf o gapiau yn rygbi’r undeb yn ogystal â’r chwaraewr sydd wedi chwarae’r mwyaf o gemau dros Gymru gyda 158 o gapiau.
Mae Jones yn gyn-gapten Cymru, y Gweilch ac roedd yn gapten y Llewod yn 2021 ar gyfer eu taith yn Ne Affrica.
Chwaraeodd bedair gwaith dros y Llewod.
Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd ar y cyfryngau cymdeithasol: “Fe wnaeth fy nhad-cu a fy nhad gynnau yr angerdd yn rygbi ynof yn fy nyddiau iau, ac mae wedi parhau ers hynny.
“Roedd y cyfle i fod yn chwaraewr proffesiynol yn y gamp rwy'n ei charu yn freuddwyd wedi ei gwireddu, ac roedd cynrychioli fy rhanbarth cartref, y Gweilch, a chlybiau o fewn y rhanbarth, gan gynnwys y Mwmbwls a Bonymaen, yn rywbeth arbennig iawn a rhywbeth dwi mor ddiolchgar ohono.”
'Braint'
Cafodd Justin Tipuric ei enwi yng ngharfan hyfforddi Cymru o 54 chwaraewr ar gyfer Cwpan y Byd yn Ffrainc ym mis Medi.
Mae blaenasgellwr y Gweilch wedi chwarae dros ei wlad 93 gwaith.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn 2011 yn erbyn Yr Ariannin ac enillodd y Chwe Gwlad gyda Chymru yn 2012, 2013, 2019 a 2012 yn ogystal â chynrychioli'r Llewod dair gwaith.
❤️ Diolch Tips pic.twitter.com/Yf7tGCKDON
— Welsh Rugby Union 🏴 (@WelshRugbyUnion) May 19, 2023
Wrth wneud y cyhoeddiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Gwener, dywedodd ei fod wedi "cael cyfnod i adlewyrchu ar fy nghyrfa ac mae'n teimlo fel yr amser iawn i gamu yn ôl o rygbi rhynglwadol.
"Mae hi wedi bod yn fraint i wisgo crys Cymru a chael cymaint o atgofion arbennig.
"Hoffwn ddiolch i'r holl chwaraewyr a hyfforddwyr dwi wedi bod ddigon ffodus i weithio gyda nhw dros y blynyddoedd, a'r gefnogaeth anhygoel dwi wedi ei dderbyn gan y cyhoedd yng Nghymru.
"Dwi'n edrych ymlaen at dreulio mwy o amser adref a rhoi fy egni i gyd i chwarae dros fy rhanbarth cartref, y Gweilch."