Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar y prif straeon ar ein hafan ar fore dydd Iau, 10 Mehefin.
‘Angen’ uned seiciatryddol i famau a babanod yn y gogledd
Mae mam o Sir Ddinbych wedi galw am sefydlu uned seiciatryddol ar gyfer mamau a babanod yng ngogledd Cymru. Bu Nia Foulkes o Ruthun yn derbyn gofal mewn uned o'r fath ym Manceinion am ddeufis wedi genedigaeth ei mab.
Un o bob 10 myfyriwr wedi defnyddio banc bwyd yn ystod y pandemig - The National Wales
Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru yn galw am fwy o gefnogaeth i fyfyrwyr gan y llywodraeth a darparwyr addysg wedi i astudiaeth awgrymu fod un o bob 10 myfyriwr wedi defnyddio banc bwyd yn ystod y pandemig. Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd diogelwch a llesiant myfyrwyr yn parhau'n flaenoriaeth iddyn nhw.
Covid-19: Matt Hancock i ymddangos o flaen pwyllgor ASau - Sky News
Fe fydd Matt Hancock yn wynebu cwestiynau gan ddau bwyllgor Seneddol am ei ymateb i'r pandemig ddydd Iau. Roedd cyn-brif ymgynghorydd Boris Johnson, Dominic Cummings, yn wynebu cwestiynau gan yr un pwyllgorau fis diwethaf.
Galw ar un corff i warchod diogelwch hen domenni glo
Mae galw am sefydlu un corff i warchod diogewlch hen domenni glo yng Nghymru. Daw'r alwad gan Gomisiwn y Gyfraith sy'n dweud nad yw'r gyfraith sy'n ymwneud â’r hen domenni glo yn Rhondda Cynon Taf yn addas.
UDA i ddarparu 500 miliwn o frechlynnau Covid-19 i 100 gwlad - The New York Times
Mae disgwyl i'r Arlywydd Biden gyhoeddi cynllun newydd a fyddai'n gweld Unol Daleithiau America yn cynorthwyo gwledydd eraill gyda'u rhaglenni brechu rhag Covid-19. Daw'r cytundeb wrth i Mr Biden gyrraedd Cernyw ar gyfer cynhadledd y G7 dros y penwythnos.
Cofiwch ddilyn y diweddaraf ar ap a gwefan Newyddion S4C drwy gydol y dydd.