Un o bob 10 myfyriwr wedi defnyddio banc bwyd yn ystod y pandemig
Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru wedi galw ar y Llywodraeth a darparwyr addysg i wneud mwy i gefnogi myfyrwyr sydd wedi ei chael hi'n anodd yn ystod y pandemig.
Roedd canlyniadau arolwg gan yr Undeb yn dangos fod 60% o fyfyrwyr yn ystyried eu hiechyd meddwl i fod yn waeth na chyn y pandemig.
Dangosodd yr astudiaeth hefyd fod un o bob 10 myfyriwr wedi defnyddio banc bwyd yn ystod y pandemig, yn ôl The National Wales.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd iechyd, diogelwch a llesiant myfyrwyr yn parhau'n flaenoriaeth iddyn nhw wrth baratoi am flwyddyn academaidd newydd ac y byddant yn cyd-weithio gyda phrifysgolion ac undebau i sicrhau fod unrhyw gefnogaeth ychwanegol yn cael ei dargedu yn y ffordd fwyaf buddiol.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Aaron Doucett (drwy Unsplash)