Newyddion S4C

‘Angen’ uned seiciatryddol i famau a babanod yn y gogledd

10/06/2021

‘Angen’ uned seiciatryddol i famau a babanod yn y gogledd

Mae mam o Sir Ddinbych wedi galw am sefydlu uned seiciatryddol ar gyfer mamau a babanod yng ngogledd Cymru.

Bu Nia Foulkes o Ruthun yn derbyn gofal mewn uned o'r fath ym Manceinion am ddeufis wedi genedigaeth ei mab.

Mae hi’n disgrifio’r profiad hwnnw fel un “unig iawn” gan nad oedd hi'n gallu trafod ei sefyllfa yn y Gymraeg ag yn agos i'w theulu a'i ffrindiau ar y pryd.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae hi wedi sefydlu deiseb sydd yn galw am sefydlu uned seiciatryddol ar gyfer mamau a babanod yn y gogledd.

Mae elusen Mind Cymru yn dweud fod diffyg gofal yn agos at adref yn gorfodi rhai mamau newydd i "wneud penderfyniadau anodd".

Ar hyn o bryd, un uned o’r fath sydd ar gael i fenywod yng Nghymru, ac mae honno yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n cydweithio gyda’r partneriaid perthnasol i gryfhau gofal iechyd meddwl i famau yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd yn y gogledd.

Image
Nia gyda ei babi, Gwilym
Nia gyda’i mab, Gwilym. (Llun teulu)

 Cafodd Nia ei derbyn i Ysbyty Wythenshawe ym Manceinion yn fuan wedi genedigaeth ei mab, Gwilym, nôl yn 2019.

“Oni’n teimlo’n unig ym Manceinion, a dwi’n meddwl 'swn i 'di bod yn agosach at adre 'swn i wedi gwella yn lot ffastach.

“A gan fod y teulu dwy awr a hanner i ffwrdd, do ni ddim yn teimlo fel bo fi’n gallu cael nhw yna pam o'n i angen nhw.”

Roedd methu siarad yn ei mamiaith yn ystod y cyfnod hefyd yn anodd i Nia.

Dywedodd wrth Newyddion s4c: “Tra o fi yn Lloegr, do ni ddim yn teimlo fel bo fi’n gallu siarad am fy nheimladau yn dda iawn gan bod well gennai siarad yn y Gymraeg.

“Oedd o’n adeg anodd.” 

Image
Nia Foulkes gyda'i babi yn gadael yr ysbyty
Treuliodd Nia ddeufis yn yr uned ym Manceinion yn 2019. (Llun teulu)

Amcangyfrifir fod 20% o fenywod yn profi problemau iechyd meddwl yn ystod y cyfnod wedi rhoi genedigaeth, gydag achosion yn amrywio o rai dwys i rai llai difrifol.

Yn Ebrill 2021, cyhoeddwyd y bydd Uned Gobaith yn agor yng Nghastell-nedd Port Talbot ar ôl cael ei gymeradwyo gan Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru.

‘Y de lot rhy bell’

Dywedodd Nia Foulkes nad oedd teithio i dde Cymru am driniaeth yn opsiwn: “Mae o jest mor bell, 'sa raid fi fynd i ochre ffor ‘ma yn Manceinion swni’n feddwl, gan bod y de lot rhy bell.

“A 'sa fi yno, swni’m yn gweld fy nheulu a jest ddim yn gallu gwella mor gyflym.

“'Sa fo jest lot, lot gwaeth.

‘Ddim yn gwneud lles i’r fam’

Mae Mind Cymru yn egluro fod diffyg gofal yn agos at adref yn gorfodi mamau newydd i wneud penderfyniadau anodd, sydd “ddim yn gwneud lles i’r fam, y babi, na’r teulu ehangach”.

Wrth groesawu’r uned newydd i famau a babanod yn y de, dywed Simon Jones, Pennaeth Polisi’r elusen “nad yw’r newid hwn yn datrys y sialensiau sy’n wynebu menywod a theuluoedd yn y gogledd.”

“Rydym yn annog y bwrdd iechyd lleol, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i adolygu eu trefniadau ar gyfer cefnogi menywod a sicrhau mynediad i ofal sydd mor agos at adref a phosib, trwy gyfrwng yr iaith o’u dewis nhw.” 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn cyd-weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru i gryfhau gofal iechyd meddwl i famau yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd yng ngogledd Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.