Covid-19: Matt Hancock yn ymddangos o flaen pwyllgor ASau
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock, yn ymddangos o flaen pwyllgor o Aelodau Seneddol ddydd Iau gan wynebu cwestiynau am ei ymateb i'r pandemig.
Mae Mr Hancock yn wynebu cwestiynau gan bwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg a'r pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn ôl Sky News.
Daw hyn ar ôl i gyn-brif ymgynghorydd Boris Johnson, Dominic Cummings, ateb cwestiynau gan yr un pwyllgorau Seneddol fis diwethaf.
Roedd Mr Cummings wedi gwneud sawl cyhuddiad yn erbyn Mr Hancock yn ystod yr oriau o atebion a roddodd i'r pwyllgor.
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd eisoes wedi gwadu honiadau Mr Cummings, gan ddweud ei fod wedi bod yn “onest gyda phobl yn gyhoeddus ac yn breifat drwy’r amser”.
Darllenwch y stori'n llawn yma.