Rhaglen drafod Dros Ginio ar BBC Radio Cymru i ddod i ben

Dros Ginio

Mae Newyddion S4C yn deall fod Dros Ginio, un o brif raglenni newyddion a materion cyfoes dyddiol BBC Cymru, yn dod i ben.

Y gred yw y bydd rhaglen Dros Frecwast ar fore dydd Sadwrn yn dod i ben hefyd.

Mae Dros Ginio wedi cael ei darlledu yn ddyddiol yn ystod yr wythnos ar BBC Radio Cymru ers 2019.

Daeth i fodolaeth wedi i raglen Taro'r Post ddod i ben mewn cyfnod o doriadau blaenorol.

Mae Dros Ginio wedi cael ei chyflwyno gan nifer o gyflwynwyr gan gynnwys Dewi Llwyd, Bethan Rhys Roberts, Rhodri Llywelyn, Vaughan Roderick, Catrin Haf Jones a Jennifer Jones yn ystod ei chyfnod ar yr awyr.

Mae disgwyl i staff BBC Cymru glywed rhagor o fanylion am doriadau mewn cyfarfodydd ddydd Iau.

Cyflwynwyr yn gadael

Daw'r datblygiad diweddaraf yn dilyn nifer o gyhoeddiadau yr wythnos hon fod cyflwynwyr amlwg yn gadael BBC Cymru.

Fore dydd Mercher fe gyhoeddodd BBC Radio Cymru fod John Hardy yn gadael wedi 48 o flynyddoedd o ddarlledu.

Dechreuodd weithio i'r BBC ar 5 Tachwedd 1979, ac yn ystod ei yrfa mae wedi gweithio fel ymchwilydd, cynhyrchydd, gohebydd, sylwebydd a chyflwynydd ar radio a theledu.

Yn gynharach yr wythnos hon fe gyhoeddodd y BBC fod Roy Noble a Derek Brockway hefyd yn gadael.

Cyfnod o gynni ariannol

Daw'r newyddion mewn cyfnod ble mae'r esgid yn gwasgu i'r gorfforaeth.

Mae'n gyfnod o gynni ariannol i ddarlledwyr eraill hefyd, gyda Channel 4 yn cyhoeddi bythefnos yn ôl fod 340 o'u swyddi i fynd erbyn diwedd y flwyddyn.

Cyhoeddodd y BBC ym mis Mehefin y camau cyntaf yn eu cynlluniau i sicrhau arbedion o £500 miliwn erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2027/28.

Mewn datganiad i’r sector gynhyrchu ar y pryd, dywedodd BBC Cymru y bydd y toriadau’n effeithio ar bob rhan o’u portffolio fideo a sain.

Roedd hynny’n cynnwys rhaglenni teledu wedi’u sgriptio a heb eu sgriptio, BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a BBC Sounds.

Nid oedd gan BBC Cymru unrhyw sylw i'w wneud am y newyddion fod Dros Ginio yn dod i ben.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.