Môn: Mân anafiadau i ddau beilot RAF Y Fali wedi i'w hawyren blymio i'r ddaear

Môn: Mân anafiadau i ddau beilot RAF Y Fali wedi i'w hawyren blymio i'r ddaear

Mae dau beilot yn cael eu trin am fân anafiadau wedi i'w hawyren blymio i'r ddaear ger safle RAF Y Fali ym Môn ddydd Mercher. 

Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod swyddogion yn bresennol wedi adroddiadau o ddigwyddiad yn ymwneud ag awyren yn ardal Pencarnisiog o'r ynys.

Mae dau beilot yn cael eu trin am fân anafiadau ar ôl gorfod gadael yr awyren drwy ddefnyddio parasiwtiau, cyn iddi ddisgyn i'r ddaear ger tai cyfagos. 

Ychwanegodd y llu bod y Gwasanaeth Tân ac Achub a'r Ambiwlans Awyr yn bresennol. 

Nid oes adroddiadau o unrhyw ddifrod neu anafiadau eraill ar hyn o bryd yn ôl yr heddlu. 

Fe wnaeth yr Awyrlu Brenhinol gadarnhau mewn datganiad fod awyren RAF T2 Hawk a oedd yn hedfan o RAF Y Fali yn rhan o'r digwyddiad. 

"Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ac ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylw pellach ar yr adeg yma," meddai'r datganiad. 

Yn ôl adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, fe wnaeth un o awyrennau'r Awyrlu Brenhinol blymio i'r ddaear ar ôl dechrau ei thaith o RAF Fali. 

Mae lluniau a fideos yn dangos dau aelod cael eu taflu o'r awyren ychydig ar ôl codi i'r awyr, gyda mwg du yn codi o ardal y digwyddiad.

Dywedodd Helen Jenner, arweinydd Reform UK yng Nghymru ac Aelod o’r Senedd dros Fangor, Conwy ac Ynys Môn, mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ei bod yn “bryderus iawn” am y ddamwain.

Dywedodd: “Mae fy meddyliau gyda’r criw, eu teuluoedd a phawb yn y ganolfan.

“Mae RAF Y Fali yn rhan annatod o gymeriad Ynys Môn.

“Mae wedi hyfforddi cenedlaethau o beilotiaid jetiau cyflym, ac mae ein ynys yn falch o fod yn gartref i’r dynion a’r menywod sy’n gwasanaethu yno.

“Byddaf yn cysylltu â’r ganolfan a’r awdurdodau perthnasol, a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i etholwyr.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Wes Streeting fod ymchwiliad wedi'i lansio i'r ddamwain.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.