Newyddion S4C

UDA i ddarparu 500 miliwn o frechlynnau Covid-19 i 100 gwlad

The New York Times 10/06/2021
Biden: Llun Gage Skidmore

Mae disgwyl i Arlywydd Unol Daleithiau America, Joe Biden, gyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol i frechu gweddill y byd rhag Covid-19.

Y gred yw y bydd yr UDA yn prynu 500 miliwn o frechlynnau Covid-19 Pfizer-BioNTech ac yn eu dosbarthu i tua 100 o wledydd ar draws y byd.

Fe fydd y brechlynnau'n cael eu dosbarthu dros y flwyddyn nesaf, yn ôl The New York Times.

Daw'r cytundeb wrth i'r Arlywydd Biden ddechrau ar daith wyth diwrnod o gwmpas Ewrop.

Bydd Mr Biden yn mynychu cynhadledd y G7 yng Nghernyw dros y penwythnos, cyn teithio i Rwsia i gyfarfod a'r Arlywydd Vladimir Putin.

Mae disgwyl i Mr Biden ddefnyddio'r daith i alw ar arweinwyr gwledydd eraill i gynyddu dosbarthiad brechlyn Covid-19.

Darllenwch y manylion yn llawn yma.

Llun: Gage Skidmore (drwy Flickr)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.