
Y gost o ailsefydlu gorsaf drenau yn Sanclêr 'wedi dyblu' ers 2020
Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fuddsoddi mwy o arian er mwyn cadw i fyny gyda’r costau cynyddol o godi gorsaf drenau yn Sanclêr.
Dyna farn Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Lee Waters AS, sydd yn dweud fod y gost o ailsefydlu gorsaf yn y dref yn Sir Gâr wedi dyblu ers i’r prosiect gael ei gyhoeddi yn 2020.
Bryd hynny y disgwyl oedd y byddai'r cynllun yn costio £6 miliwn, gydag Adran Trafnidiaeth Llywodraeth y DU yn cyfrannu £4.5 miliwn a Llywodraeth Cymru yn darparu’r £1.5 miliwn arall.
Ond yn sgil twf cynyddol mewn chwyddiant a gwaith signal ychwanegol oedd ei angen, mae’r achos busnes nawr yn wynebu diffyg ariannol o bron i £6 miliwn er mwyn gwireddu’r prosiect.
Adran Trafnidiaeth Llywodraeth y DU sydd yn gyfrifol am isadeiledd rheilffyrdd yng Nghymru. Ond yn ôl yr Adran Drafnidiaeth yn Whitehall, Trafnidiaeth Cymru sydd yng ngofal y prosiect a Llywodraeth Cymru sydd yn ei ariannu.
Mae’r trafodaethau dros leoliad ysbyty newydd yn ne-orllewin Cymru hefyd yn achosi oedi i’r prosiect, gyda Sanclêr yn un o ddau leoliad sydd yn cael ei ystyried.
‘Tanamcangyfrif anferthol’

Wrth holi Mr Waters yn y Senedd, gofynnodd Sam Kurtz AS, sydd yn cynrychioli’r Ceidwadwyr Cymreig yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro: “Beth ar wyneb y ddaear sydd yn digwydd gyda gorsaf rheilffordd Sanclêr?
“Fe wnes i ymweld â’r safle yn ddiweddar gyda’r Aelod Seneddol lleol, Simon Hart, swyddogion o Gyngor Sir Gâr a dau gynghorydd lleol, oherwydd mae’n teimlo fel nad ydyn ni’n agosach o gwbl i ail-agor yr orsaf hon.
“Yn yr ymatebion dwi wedi ei dderbyn, mae’r penderfyniad i ail-agor yr orsaf yn amodol ar leoliad newydd yr ysbyty yng ngorllewin Cymru, pan nad oedd hyn yn rhan o’r drafodaeth o gwbl ar y cychwyn, pan roedd Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Network Rail a’r gymuned leol i gyd yn gytûn fod angen gorsaf rheilffordd yn Sanclêr.
“Mae sôn fod chwyddiant wedi chwarae ei rhan, ond roedd yna danamcangyfrif anferthol gan Lywodraeth Cymru.”
'Dyblu'

Yn ei ymateb, dywedodd Mr Waters AS: “Yr her yw bod yr achos busnes wedi amcangyfrif y byddai'n costio £6 miliwn i ailagor gorsaf Sanclêr. Mae’r gost honno bellach wedi dyblu, ond nid yw’r cyfraniad gan yr Adran Drafnidiaeth wedi.
“Mae eu cyfraniad yn parhau i fod yn £4.5 miliwn. Nawr, isadeiledd rheilffyrdd yw hyn; nid yw isadeiledd rheilffyrdd wedi’i ddatganoli. Mae rhagdybiaeth o dan y cynllun hwn y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi arian cyfatebol, ac roeddem yn fodlon rhoi arian cyfatebol am y gost is. Ond yn syml, nid oes gennym yr arian i ar y gost uwch.
"Felly, dyna wirionedd y sefyllfa ac rydym yn cydnabod yr angen am orsaf yn Sanclêr ac yn ei chefnogi’n llwyr ac eisiau iddi ddigwydd.
Rwy’n meddwl mai’r realiti a’r pethau ymarferol sy’n ein hwynebu a’r dewisiadau sydd gennym yma yw ein bod yn gwybod bod cynllun ar gyfer ysbyty mawr gerllaw, mae cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus i hwnnw’n hollbwysig ac rwy’n meddwl bod angen inni edrych ar y ddau ddatblygiad hynny ar y cyd.
“Ond os yw Llywodraeth y DU am gymryd ei chyfrifoldebau dros is-adeiledd rheilffyrdd o ddifrif a darparu cyllid pellach, byddem yn ddiolchgar iawn i weithio gyda nhw.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn cydnabod yr angen am orsaf yn Sanclêr ond mae cost amcangyfrifedig gorsaf newydd wedi cynyddu’n sylweddol o’r £6m gwreiddiol.
“Nid yw’r cyllid sydd ar gael gan yr Adran Drafnidiaeth wedi cynyddu ac nid oes gennym yr arian ar gael i gynyddu ein cyfraniad ariannu gwreiddiol.
“Os yw Llywodraeth y DU am gymryd ei chyfrifoldebau dros seilwaith y rheilffyrdd o ddifrif a darparu cyllid pellach, byddwn yn hapus iawn i weithio gyda nhw.”
Ond awgrymodd llefarydd ar ran Llywodreth y DU na fydd arian ychwanegol yn dod o Lundain.
“Prosiect Llywodraeth Cymru yw hwn, gyda chyfraniad penodedig o £4.7 miliwn o Gronfa Gorsafoedd Newydd Llywodraeth y DU," meddai.
"Derbyniodd Llywodraeth Cymu y swm llawn roedden nhw wedi gofyn amdano, a fe wnaethon nhw hynny gan wybod yn iawn y bydde nhw'n gyfrifol am dalu am unrhyw gynnydd mewn costau."
Lluniau: senedd.tv