Newyddion S4C

‘Rhwystredig’: Oedi i gynllun i ail-agor gorsaf drenau yn Sanclêr

19/10/2023
Gorsaf Sanclêr

Mae ’na bryderon y bydd oedi pellach yn y cynllun i ail-agor gorsaf drenau yn Sanclêr, oherwydd y broses  o benderfynu ble fydd ysbyty newydd de orllewin Cymru yn cael ei adeiladu.

Cafodd y cynllun i adeiladu gorsaf newydd yn y dref ei gyhoeddi yn 2020, gyda Llywodraeth y DU yn ymrwymo i roi £4.7 miliwn tuag at y prosiect, sydd yng ngofal Trafnidiaeth Cymru.  Y gobaith bryd hynny oedd cwblhau'r gwaith erbyn 2024.

Cytunodd Llywodraeth Cymru i roi £1.6 miliwn at y prosiect yn ogystal, cyn i waith arolwg a sylfaenwaith ar y tir ei gynnal ar ddechrau 2022.

Ond yn sgil costau cynyddol, gan gynnwys chwyddiant a gwaith signal ychwanegol oedd ei angen, mae’r achos busnes nawr yn wynebu diffyg ariannol o bron i £6 miliwn er mwyn gwireddu’r prosiect.

Nawr mae'n bosib bydd oedi pellach wrth i’r dref cael ei hystyried gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda fel safle bosib ar gyfer ysbyty newydd.

'Rhwystredig'

Sanclêr a Hendy-gwyn yw’r ddau safle bosib ar gyfer yr ysbyty arfaethedig ac mae’r bwrdd iechyd nawr yn ceisio sicrhau cefnogaeth a chyllid, cyn penderfynu ar y lleoliad terfynol. Nid oes disgwyl i unrhyw waith adeiladu gychwyn ar yr ysbyty cyn diwedd y ddegawd.

Gallai hynny olygu oedi pellach i’r cynllun i ail agor gorsaf drenau yn y dref,  ar safle’r hen orsaf a gafodd ei chau yn 1964.

Dywedodd Maer Sanclêr, y cynghorydd Annalyn Davies: “Fi’n siŵr mi fydde bobol yr ardal yn falch iawn tase’r orsaf yn ail-agor, fydden nhw’n croesawu’r peth. ‘Sa i di clywed am unrhyw wrthwynebiad yn lleol.

“Mae ble fydd yr ysbyty newydd yn mynd, yn mynd i gael effaith ar y penderfyniad. Os ydi e’n mynd i fod yn Sanclêr, wel bydd e’n agos at yr orsaf wedyn.

“Odi, mae’r oedi wedi bod yn rhwystredig. Fel mae’n digwydd bod, fy niweddar ŵr i oedd y cyntaf i ddweud mae ishe i ni wneud ymgyrch ynglŷn â hyn, ac mi oedd hynny flynyddoedd yn ôl. Wnaeth e drio wneud deiseb a chyfarfod efo Simon Hart (Yr Aelod Seneddol) a thrafod efo swyddogion y cyngor sir, ac yn sydyn reit, fe wnaethon nhw ddweud fod e mynd i ddod. Ydy hwnna yn mynd i gael ei wireddu yn y pen draw?”

'Straen ychwanegol'

Mae pryderon y gallai’r newid mewn cyllidebau Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ddydd Mawrth hefyd arwain ar ‘straen ychwanegol’ ar y prosiect.

Fe wnaeth Trafnidiaeth Cymru dderbyn £125 miliwn yn ychwanegol o ganlyniad i’r newidiadau, a hynny er mwyn diogelu gwasanaethau yn sgil chostau cynyddol a gostyngiad yn niferoedd teithwyr ers y pandemig.

Mae cyllideb cyfalaf yr adran Newid Hinsawdd, sef yr arian sydd ar gael i wario ar brosiectau adeiladau mewn meysydd fel trafnidiaeth, wedi gostwng £37.7 miliwn eleni yn unig, tra bod disgwyl lleihad o 1% yng nghyllideb cyfalaf y Llywodraeth gyfan yn 2024/25.

Er hynny, mae’r Llywodraeth yn mynnu fod y cynllun i adeiladau’r orsaf yn Sanclêr yn parhau i fod yn flaenoriaeth.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol ,Samuel Kurtz: “Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £5 miliwn i'r prosiect hwn, gyda disgwyl i Trafnidiaeth Cymru ariannu £1.6 miliwn tuag at ei ailagor. Rydym bellach dair blynedd ers cyhoeddi'r cyllid ac ni fu cynnydd hyd yma.

“Gan nad oedd ailagor gorsaf reilffordd Sanclêr yn amodol ar leoliad ysbyty newydd arfaethedig, mae pryderon gwirioneddol yn lleol bod y penderfyniad ar leoliad yr ysbyty yn y dyfodol yn cuddio anweithgarwch gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, nad ydynt o ddifrif ynglŷn ag ailagor yr orsaf hon y mae mawr ei hangen.”

Dywedodd Cefin Campbell AS, o Blaid Cymru: “Does dim dwywaith byddai gorsaf newydd yn Sanclêr o fudd sylweddol i’r dref ac ardal - gan brofi’n hwb i dwristiaeth, yn ogystal â chyfrannu at dargedau teithio llesol a datgarboneiddio’r Llywodraeth.

“Fodd bynnag, mae’n amlwg ers tro fod dyfodol y datblygiad pwysig hwn yn y fantol, ac ansicrwydd ac aneglurder o sawl cyfeiriad am y cyllid sydd ei angen i wireddu’r prosiect hwn.

“Mae’r sefyllfa gyllidol bresennol am fod yn straen pellach ar obeithion i wireddu’r uchelgais hon, a byddaf yn parhau i bwyso ar y Llywodraeth am eglurder ynghylch dyfodol yr orsaf hir-ddisgwyliedig.”

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae gwella cysylltedd trafnidiaeth yn Sanclêr yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae'r gwaith hyd yn hyn wedi helpu i ddatblygu'r prosiect i'r cam lle y gellir ei gyflawni.

“Rydym yn ymwybodol y gallai ysbyty newydd yn y rhanbarth gael ei leoli yn Sanclêr. Gall hyn newid gofynion yr orsaf a chreu cyfleoedd i gydlynu datblygiad.

“Rydym yn parhau i weithio gydag Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU a Network Rail i ddatblygu cynlluniau ar gyfer yr orsaf a chysylltedd trafnidiaeth yn y rhanbarth.”

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU: “Fe wnawn ni barhau ein trafodaethau gyda Llywodraeth Cymry ynglŷn â’r orsaf. Rydym wedi ymrwymo i wella gwasanaethau i deithwyr rheilffyrdd yng Nghymru, gan fuddsoddi £2 biliwn yn rheilffyrdd Gymru rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2024.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.