Martin Clunes yn chwarae rhan Huw Edwards mewn cyfres newydd

08/01/2026
Martin Clunes yn chwarae rhan Huw Edwards

Bydd yr actor Martin Clunes yn chwarae rhan Huw Edwards mewn drama newydd am ei sgandal.

Bydd y gyfres newydd yn canolbwyntio ar "fywyd dwbl" y cyn gyflwynydd BBC a sut y datblygodd y sgandal a ddaeth i ben pan gafodd ddedfryd o chwe mis o garchar wedi'i ohirio ym mis Gorffennaf 2024.

Y gyfres ddwy ran Power: The Downfall of Huw Edwards yw'r cydweithrediad cyntaf rhwng timau comisiynu ffeithiol a sgriptio Channel 5, medden nhw.

Roedd Huw Edwards yn o'r wynebau mwyaf adnabyddus ar y teledu cyn i'w yrfa ddisglair orffen. Y Cymro 64 oed oedd y darlledwr newyddion ar y cyflog uchaf yn y BBC cyn iddo adael y gorfforaeth. 

Fe gyflwynodd News At Ten am ddegawdau cyn iddo bledio’n euog i droseddau yn cynnwys creu delweddau anweddus o blant, a bod â 41 o luniau anweddus o blant yn ei feddiant.

Roedd saith o'r lluniau yn ei feddiant yn perthyn i'r categori mwyaf difrifol - sef categori A.

Dywedodd Ben Frow, prif swyddog cynnwys Channel 5: “Mae hon yn stori bwysig a brawychus am sut y bradychodd dyn mewn safle o rym ac ymddiriedaeth y statws hwnnw.

“Drwy gael mynediad unigryw at yr unigolion allweddol dan sylw a’r rhai a ymchwiliodd i’r stori, rydym yn edrych ar y pris dynol oedd i'w dalu y tu ôl i’r penawdau.”

Bydd y gyfres newydd yn cael ei chyfarwyddo gan Michael Samuels, sy’n adnabyddus am The Windermere Children ac Any Human Heart.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.