Dau safle posib ar gyfer ysbyty newydd yn ne-orllewin Cymru
Bydd ysbyty newydd i dde-orllewin Cymru yn cael ei adeiladu un ai yn Sanclêr neu Hendy-gwyn.
Dyna oedd penderfyniad Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar ol cyfarfod yng Nghaerfyrddin ddydd Iau
Yn y pen draw byddai'r cynlluniau yn golygu cau adrannau gofal brys Llwynhelyg yn Hwlffordd a Glangwili yng Nghaerfyrddin.
Mae’r newid wedi bod yn destun protestiadau, gyda phryderon y bydd pobl yng ngorllewin Sir Benfro, de Ceredigion a Dwyrain Caerfyrddin yn bell o adran achosion brys.
Does dim disgwyl i’r gwaith adeiladu ddechrau cyn diwedd y ddegawd.
Y ddau safle sydd yn weddill ar ôl cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yw un yn Sanclêr ac un arall ar safle Tŷ Newydd, Hendy-gwyn.
Cafodd safle arall posib yn Hendy-gwyn, Spring Gardens, ei eithrio yn ystod y cyfarfod.
‘Tystiolaeth’
Dywedodd cadeirydd y bwrdd, Maria Battle, bod angen ysbyty newydd a fyddai'n darparu gofal brys a chynlluniedig mewn man canolog a “oedd yn addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol”.
“Rydyn ni wedi casglu llawer iawn o dystiolaeth fanwl,” meddai
“Safle San Clêr sydd a’r mwyaf o gefnogaeth gyhoeddus, er bod yna wahaniaethau yn yr ymateb yn ôl lle oedd pobol yn byw.
“Mae yna risgiau technegol sydd ddim yn anorchfygol a risg masnachol i’r safle, ond sydd ddim mor uchel â Spring Gardens [yn Hendy-gwyn].
“A dyma’r safle mwyaf positif o ran recriwtio a chadw staff a sydd a’r lleiaf o risg clinigol.
“Tŷ Newydd yn Hendy-gwyn sydd a’r risg technegol a masnachol isaf. Ond mae ganddo’r gefnogaeth isaf gan y cyhoedd.
“Dyma’r safle mwyaf o ran gallu ehangu ac mae agosaf i’r orsaf drenau.
“O ystyried yr holl dystiolaeth rydw i’n awgrymu ein bod ni’n ystyried safleoedd Tŷ Newydd yn Hendy-gwyn a safle San Clêr.”