Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma grynodeb o rai o'n prif straeon ar fore dydd Mercher, 19 Mai.
Swyddogion Heddlu De Cymru wedi mynychu parti anghyfreithlon
Mae 20 o bobl wedi derbyn dirwy ar ôl cael eu dal mewn parti anghyfreithlon yn Abertawe. Roedd swyddogion Heddlu De Cymru ymhlith y rhai oedd yn bresennol yn y parti, a gredir i fod yn barti dathlu genedigaeth babi newydd.
Safleoedd Amgueddfa Cymru yn ailagor unwaith eto
Fe fydd safleoedd Amgueddfa Cymru yn dechrau ailagor unwaith eto o ddydd Mercher. Daw hyn wrth i Gymru symud i lefel rhybudd dau'r wythnos hon, gydag atyniadau dan do megis amgueddfeydd ac orielau yn cael ailagor i'r cyhoedd.
Gohirio adroddiad hirddisgwyliedig i lofruddiaeth Daniel Morgan
Mae adroddiad hirddisgwyliedig i lofruddiaeth Daniel Morgan wedi cael ei ohirio oherwydd adolygiad gan y Swyddfa Gartref. Cafodd Mr Morgan, a gafodd ei fagu yn Sir Fynwy, ei ladd gyda bwyell ym maes parcio tafarn y Golden Lion yn Sydenham, de-ddwyrain Llundain ar 10 Mawrth, 1987.
Apêl i bobol ifanc â sgiliau technoleg i ddychwelyd i Fôn i weithio
Mae Rheolwr Gyfarwyddwr canolfan dechnoleg ar Ynys Môn wedi apelio i bobol ifanc sydd â chymwysterau yn y maes i ddychwelyd i'r ynys i weithio. Er nad oes prinder swyddi o fewn y sector lletygarwch y sir, dywed mai'r prif bryder ydi cyflogau isel a diffyg sgiliau o fewn meysydd eraill.
Dros 100 o hediadau o India wedi cyrraedd y DU ers rhoi'r wlad ar y rhestr goch
Mae hi wedi dod i'r amlwg fod dros 100 o hediadau awyrennau wedi cyrraedd y DU yn uniongyrchol o India ers i’r wlad gael ei rhoi ar y rhestr goch. Daeth y mesur i rym ar Ebrill 23, ond nid yw hediadau uniongyrchol o'r wlad wedi cael eu gwahardd, gyda 110 o awyrennau wedi glanio yn y DU yn ystod y tair wythnos a hanner diwethaf.
Buddugoliaeth i Gasnewydd yng nghymal cyntaf gemau ail gyfle Cynghrair Dau
Mae Casnewydd wedi ennill cymal cyntaf gemau ail gyfle Cynghrair Dau yn erbyn Forest Green Rovers yn Rodney Parade nos Fawrth, 18 Mai. Dyma oedd digwyddiad chwaraeon cyntaf Cymru ers dros flwyddyn gyda thorf yn bresennol.