Buddugoliaeth i Gasnewydd yng nghymal cyntaf gemau ail gyfle Cynghrair Dau
18/05/2021
Newyddion S4C
Mae Casnewydd wedi ennill cymal cyntaf gemau ail gyfle Cynghrair Dau yn erbyn Forest Green Rovers yn Rodney Parade nos Fawrth, 18 Mai.
Daeth y gôl gyntaf i'r Alltudion ar ôl 31 munud gan Matt Dolan, cyn i Lewis Collins sgorio'r ail yn yr ail hanner.
Dyma oedd digwyddiad chwaraeon cyntaf Cymru ers dros flwyddyn gyda thorf yn bresennol.
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans