Dros 100 o hediadau o India wedi cyrraedd y DU ers rhoi'r wlad ar y rhestr goch

Mae hi wedi dod i'r amlwg fod dros 100 o hediadau awyrennau wedi cyrraedd y DU yn uniongyrchol o India ers i’r wlad gael ei rhoi ar y rhestr goch.
Daeth y mesur i rym ar Ebrill 23, ond nid yw hediadau uniongyrchol o'r wlad wedi cael eu gwahardd, gyda 110 o awyrennau wedi glanio yn y DU yn ystod y tair wythnos a hanner diwethaf.
Yn y bwlch ar ôl cyhoeddi fod y wlad yn cael ei rhoi ar y rhestr goch â phan ddaeth y gwaharddiad i rym, cyrhaeddodd 16 awyren y DU o'r wlad.
Cafodd India ei rhoi ar y rhestr goch ar ôl i amrywiolyn newydd ledaenu yn y wlad, a gredir iddo fod yn llawer mwy heintus na straen Caint, meddai'r Mirror.
Darllenwch y stori'n llawn yma.