Newyddion S4C

Gohirio adroddiad hirddisgwyliedig i lofruddiaeth Daniel Morgan

The Independent 19/05/2021
Daniel Morgan

Mae adroddiad hirddisgwyliedig i lofruddiaeth Daniel Morgan wedi cael ei ohirio oherwydd adolygiad gan y Swyddfa Gartref.

Cafodd Mr Morgan, a gafodd ei fagu yn Sir Fynwy, ei ladd gyda bwyell ym maes parcio tafarn y Golden Lion yn Sydenham, de-ddwyrain Llundain ar 10 Mawrth, 1987.

Roedd disgwyl i banel sydd wedi bod yn edrych ar y modd y gwnaeth Heddlu'r Met ymdrin â’r ymchwiliad, gyhoeddi ei ganfyddiadau ddydd Llun 17 Mai.

Mae'r Swyddfa Gartref wedi gohirio'r cyhoeddiad gan eu bod am adolygu'r ddogfen yn fewnol yn gyntaf, gyda disgwyl iddi gynnwys "pennod sylweddol" ar lygredd yn yr heddlu, meddai The Independent.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.