Newyddion S4C

Safleoedd Amgueddfa Cymru yn ailagor unwaith eto

19/05/2021
Google Street View

Fe fydd safleoedd Amgueddfa Cymru yn dechrau ailagor unwaith eto o ddydd Mercher, 19 Mai ymlaen. 

Daw hyn wrth i Gymru symud i lefel rhybudd dau'r wythnos hon, gydag atyniadau dan do megis amgueddfeydd ac orielau yn cael ailagor i'r cyhoedd. 

Bydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe yn ailagor ar ddydd Mercher 19 Mai.

Fe fydd Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yn ailagor ar ddydd Iau 20 Mai. Bydd yr Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion hefyd yn agor ar ddydd Iau 20 Mai.

Yn ôl Amgueddfa Cymru, fe fydd yna sawl newid i'r safleoedd gan gynnwys rheoli nifer ymwelwyr ar y safle drwy gyflwyno system archebu ymlaen llaw, arwyddion ymbellhau cymdeithasol drwy'r gofodau cyhoeddus, systemau unffordd, a rhagor o lanhau.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Mae'n bleser gennym allu croesawu ymwelwyr yn ôl i'n hamgueddfeydd cenedlaethol.  

"Rydym yn ailagor unwaith eto gydag ystod lawn o fesurau diogelwch yn eu lle er mwyn sicrhau fod pawb yn gallu mwynhau ymweliad diogel a braf.

"Rydym oll wedi wynebu heriau digynsail dros y misoedd diwethaf ac er ein bod wedi bod ar gau rydym wedi parhau i gefnogi miloedd o bobl yn ein cymunedau ar draws Cymru i ymgysylltu gyda'n hamgueddfeydd a'n casgliadau cenedlaethol. 

"Bydd ein hamgueddfeydd a'n casgliadau yn adnodd pwysig ar gyfer gwellhad ac adfywiad y genedl yn 2021 a thu hwnt a dwi'n gobeithio y bydd pawb yn dychwelyd i ymweld â ni a'n cefnogi ni."

Llun: Google Street View

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.