Swyddogion Heddlu De Cymru wedi mynychu parti anghyfreithlon
19/05/2021
Mae 20 o bobl wedi derbyn dirwy ar ôl cael eu dal mewn parti anghyfreithlon yn Abertawe.
Roedd swyddogion Heddlu De Cymru ymhlith y rhai oedd yn bresennol yn y parti, a gredir i fod yn barti dathlu genedigaeth babi newydd.
Cafodd swyddogion o Heddlu De Cymru eu galw i eiddo yn ardal Penlan o Abertawe, yn dilyn adroddiadau fod pobl yn cyfarfod dan do ar 8 Mai.
Mae nifer o bobl oedd yn bresenol yn y parti, bellach wedi derbyn dirwyon am dorri rheolau Covid-19.
Er hynny, nid yw hi'n glir os yw swyddogion yr heddlu ymhlith y 20 sydd wedi derbyn dirwy, yn ôl Wales Online.
Darllenwch y stori'n llawn yma.