Apêl i bobol ifanc â sgiliau technoleg i ddychwelyd i Fôn i weithio
Apêl i bobol ifanc â sgiliau technoleg i ddychwelyd i Fôn i weithio
Mae Rheolwr Gyfarwyddwr canolfan dechnoleg ar Ynys Môn wedi apelio i bobol ifanc sydd â chymwysterau yn y maes i ddychwelyd i'r ynys i weithio.
Er nad oes prinder swyddi o fewn y sector lletygarwch y sir, dywed mai'r prif bryder ydi cyflogau isel a diffyg sgiliau o fewn meysydd eraill.
Sefydlwyd M-SParc yng Ngaerwen i helpu cwmnïau ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae'n bellach yn hwb i 30 o gwmnïau sydd yn cyflogi 150 o bobol gyda chyflogau yn sylweddol uwch na chyfartaledd Ynys Môn.
Ond yn ôl Pryderi ap Rhisiart o M-SParc, mae llenwi rhai o'r swyddi yn broblem.
'Cwmnïau yn cwyno bo' nhw methu cael y sgiliau'
"Mae yna ddiffyg sgiliau digidol," dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr wrth raglen Newyddion S4C.
"'Da ni'n gweld hynny'n arbennig ar hyn o bryd. Ac mae 'na sawl stori wedi bod yn y papur, ond hefyd 'da ni'n gweld cwmnïau yma bob dydd yn cwyno i ni bo' nhw methu cael y sgiliau maen nhw angen, methu recriwtio yn anffodus.
"Felly, mae hwnna yn wbath 'da ni'n awyddus iawn i weithio arno ar hyn o bryd."
Wrth i M-SParc chwilio am fwy o weithwyr, mae'r safle wedi cychwyn ymgyrch i geisio denu graddedigion o Fôn yn ôl i'r ynys.
"I lenwi'r bylchau 'ma - y sgiliau sydd eu hangen ond hefyd i gychwyn busnesau newydd," ychwanegodd Mr ap Rhisiart.
"Felly, 'da ni 'di cael rhyw un neu ddau o bobol yn dod yn ôl. Gafodd ni un wythnos diwethaf yn dod yn ôl i Langefni, mae gen y ni rhywun sydd yn dod yn ôl i gychwyn busnes ac mae'r busnes wedi'i leoli yma ac yn cael help can eu hwb menter rŵan hefyd.
"Felly, mae 'na ambell i ryw stori bositif yn ganol y straeon eraill i gyd ar hyn o bryd."
'Dydi'r swyddi ddim yn talu'n dda'
Dros y degawd diwethaf, mae'r stori ar Ynys Môn wedi bod yn un o addewidion am swyddi ar y gorwel, boed hynny yn y diwydiant niwclear neu o fewn gwersylloedd gwyliau mawr.
Ond, yn ôl rhai mae'r methiant i sicrhau'r swyddi yma wedi arwain ar "orddibyniaeth" ar y sector dwristiaeth.
"'Da ni'n gweld llefydd fatha M-SParc yn Ynys Môn sydd yn ceisio denu cwmnïau o dechnoleg uchel i fewn," dywedodd yr Athro Dylan Jones Evans o Brifysgol De Cymru.
"Yn trio denu mwy o weithwyr wrach i ddod yn ôl i Gymru, ond y broblem sydd gen y ni ydi mai dim ond un sbotyn bach ydi hwn yn yr economi, un lleoliad bach.
"Be' yda ni'n weld ydi o gwmpas - yn arbennig yng ngogledd Cymru wrth gwrs, oherwydd yr orddibyniaeth i ryw raddau ar y sector dwristiaeth, dydi'r swyddi ddim yn talu'n dda."
'Cymaint o bobol isho cychwyn busnes am y tro cyntaf'
Fodd bynnag, mae yna elfen o obaith am swyddi yn y dyfodol yn y maes ynni adnewyddol fel prosiect ynni môr Morlais a chynllun hwb hydrogen yng Nghaergybi, ac mae nifer cynyddol o bobol yr ynys yn ystyried sefydlu busnesau eu hunain, yn ôl Alun Roberts o fenter Cymunedau'n Gyntaf.
"Yn sicr, 'da ni ddim yr unig asiantaeth yn gweld cynnydd aruthrol ers cychwyn y cyfnod clo 'ma," dywedodd Mr Roberts.
"Ac mae 'na wedd newydd wedi bod i ddeud y gwir yn yr ardal - cymaint o bobol isho cychwyn busnes am y tro cyntaf.
"Mae 'na wahanol resymau am hynny - 'da ni ddim yn sicr pam yn union, ond mae 'na rhei pobol isio mynd am y tro cyntaf cos bod nhw wedi cael llond bol o'u swydd neu rhei eraill yn gweld cyfla ella i ennill mwy o bres na maen nhw'n cael ar hyn o bryd."